Meithrin gohebwyr sy’n mynd ar ôl y materion mawr

‘Newyddiadura… a newid pethau’ yw cwrs newydd uchelgeisiol Bro360

Lowri Jones
gan Lowri Jones
Hysbyseb_Bro360

Os oes rhyw fater yn lleol yn mynd dan eich croen, be fyddwch chi’n ei wneud am y peth?

Mynd yn flin? Achwyn wrth yr awdurdodau? Bytheirio a gwneud dim byd?

Mae yna ffyrdd adeiladol o ymateb i anghyfiawnderau.

Gallwn ddefnyddio’r cyfryngau sydd ar gael i ni, i ymchwilio i’r gwir ac adrodd am yr hyn sy’n digwydd.

Yn lle gweld rhywbeth yn mynd o’i le, gallwn holi’r cwestiynau, herio’r bobol y mae angen eu herio, a rhannu’r stori er mwyn agor llygaid rhagor o bobol.

Mae gwefannau Bro360 yn lle agored i chi rannu’r straeon hynny sy’n bwysig i chi, a hynny’n hawdd, trwy’r Gymraeg ac yn amlgyfrwng. Gall pawb fod yn ohebwyr bro.

Newyddiadura… a newid pethau

Os hoffech gael eich arfogi i fynd i’r afael â straeon sy’n effeithio ar eich bro, ymunwch â’r gohebwyr profiadol Dylan Iorwerth, Aiden O’Donnell ac eraill mewn cwrs 6 wythnos dros Zoom.

Bydd cyfres o 6 sesiwn awr yn cael eu cynnal yn wythnosol (nos Fercher, 6pm) o 30 Mawrth tan ddechrau Mai, ac mae’r cyfan am ddim i unrhyw un o unrhyw oed yng Nghymru.

Dim ond lle i 12 fydd, felly ewch ati i ddangos diddordeb, trwy ddweud wrthym pam eich bod yn credu bod newyddion lleol yn bwysig. Anfonwch bwt o baragraff neu fideo fer at lowrijones@golwg.cymru erbyn 24 Mawrth.

Peidiwch eistedd nôl a gadael i bethau ddigwydd – ewch ati i newyddiadura, a newid pethau.