Llyfr awdur o Dregaron yn Llyfr y Mis!

Geraint Lewis sy’n cael yr anrhydedd yr wythnos hon

Gwasg Carreg Gwalch
gan Gwasg Carreg Gwalch

Mae nofel ddiweddaraf Geraint Lewis o Dregaron wedi ei henwi’n Llyfr y Mis, Mis Ebrill.

Mae’r nofel, a ddaeth yn ail agos am y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2021 wedi gweld golau dydd. Cafodd Geraint Lewis, dan y ffugenw ‘Corryn’, ganmoliaeth uchel yn y gystadleuaeth honno gan y beirniaid, yn enwedig Rhiannon Ifans, am ei waith gwreiddiol a heriol sy’n delio ag ymateb mam i hunanladdiad ei mab un ar bymtheg oed.

Mae’r nofel yn mynd â’r darllenydd yn ddwfn i feddwl Mari, mam yn ei phumdegau sy’n ceisio gwneud rhyw fath o synnwyr o’r hyn a symbylodd ei mab, Kevin, i grogi ei hun – a hynny drwy gyfrwng un frawddeg.

Pam dewis peidio â defnyddio atalnodi? “Pam lai?” yw ateb yr awdur.

Mae Geraint Lewis yn hanu o Dregaron, Ceredigion. Cyhoeddodd dair nofel, sef X, Daw Eto Haul a Haf o Hyd, i gyd i Wasg Carreg Gwalch a tair cyfrol o straeon byrion, Y Malwod (Annwn) a Brodyr a Chwiorydd (Y Lolfa) a Cofiwch Olchi Dwylo a Straeon Eraill (Gwasg Carreg Gwalch). Enillodd gystadleuaeth Stori Fer Cymdeithas Allen Raine ac ef oedd enillydd cyntaf Gwobr Stori Fer Tony Bianchi yn 2019. Bu’n ysgrifennu’n helaeth i’r theatr, radio a theledu. Mae’n byw yn Aberaeron gyda’i wraig, Siân.

Mae Lloerig ar gael mewn siopau llyfrau ledled Cymru, ar y we drwy wefan y wasg www.carreg.gwalch.cymru a gwefan y Cyngor Llyfrau www.gwales.com.

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)