Mae cadw pobl ifanc yn her sy’n wynebu’r rhan fwyaf o gymunedau gwledig – gyda ffigyrau newydd Cyfrifiad 2021 yn cadarnhau hynny. Yn groes i’r patrwm cenedlaethol mae siroedd gogledd orllewin Cymru oll wedi gweld eu poblogaeth yn crebachu. Prawf felly, yn ôl un menter gymdeithasol sy’n gweithredu ym Môn a Gwynedd, bod yr angen am gynlluniau sy’n cefnogi ac yn annog pobl ifanc i aros yn eu hardaloedd yn fwy nag erioed.
Dyma yw bwriad prosiect Llwyddo’n Lleol 2050. Yn cael ei redeg gan Menter Môn ers sawl blwyddyn bellach – mae’r cynllun wedi gweithio gyda bron i 60 o bobl ifanc. Mae’n brosiect unigryw sy’n rhoi hwb i‘r to iau wrth iddynt gychwyn ar eu taith i fyd gwaith, gan hyrwyddo’r cydbwysedd rhwng safon byw mewn ardal braf a datblygu gyrfa broffesiynol.
Mae Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, yn egluro: “Mae Llwyddo’n Lleol 2050 yn un o’r cynlluniau rydan ni yn fwyaf balch ohono. Mae’n adlewyrchu cymaint o’n gwerthoedd ni fel sefydliad – o ddarparu cyfleodd i bobol ifanc a hybu entrepreneuriaeth i ddiogelu’r Gymraeg.”
Gyda Chyfrifiad 2021 yn dangos effaith andwyol allfudo ar ein cymunedau mae neges y cynllun – bod hon yn ardal ddelfrydol i sicrhau’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, yn un bwysig. Ein gobaith yw y gallwn barhau gyda’r gwaith er mwyn annog mwy i ystyried aros yn lleol ac i osod gwreiddiau yma.”
Un o raglenni mwyaf diweddar Llwyddo’n Lleol oedd darparu hyfforddiant i bobl ifanc greu cynnwys digidol i hyrwyddo gogledd orllewin Cymru fel lle delfrydol i fyw. Roedd Tesni Hughes o Llangefni yn un o’r rheiny. Dywedodd: “Rydw i yn ddiolchgar o fod wedi cael bod yn rhan o Llwyddo’n Lleol. Mi ges i ddatblygu sgiliau ar gyfer byd gwaith, ond hefyd cyfle i gwrdd â phobl o’r un oedran a’r un diddordebau a fi.
“Cyn hyn roeddwn i â fy mryd ar symud i ffwrdd ond bellach dwi wedi gweld yr hyn sydd ar gael i mi yma o ran gwaith ond hefyd ac yn bwysicach, y gallu i fyw mewn ardal lle mae’r Gymraeg mor bwysig.”
Gobaith Menter Môn yw gallu parhau i hyrwyddo a chefnogi cyfleodd i bobl ifanc. Fel sefydliad ei hun sy’n cyflogi nifer sy’n cychwyn ar eu gyrfa mae hefyd yn awyddus i ledaenu’r genhadaeth i gwmnïau a busnesau eraill yn yr ardal er mwyn cadw talent yn lleol er budd cymunedau, yr economi a’r Gymraeg.Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Llywodraeth Cymru drwy gronfa Arfor 1 hyd at Mawrth 2021 a Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, trwy Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Llun: Tesni Hughes, un o gyfranogwyr Llwyddo’n Lleol 2050