Lansio holiadur i fesur cefnogaeth i wefannau bro trwy Gymru

Bro360 yn holi pa ardaloedd fydd y nesa’ i ymuno â’r rhwydwaith

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae nifer o ardaloedd newydd wedi dangos diddordeb mewn creu gwefannau bro ac ymuno â rhwydwaith Bro360.

Er mwyn darganfod y potensial, mae holiadur ar-lein wedi’i lansio i holi barn cymunedau ledled Cymru.

Os bydd yr ymateb yn ffafriol, fe fydd yn hwb fawr i’r ymgyrch i gael cefnogaeth ariannol i sefydlu rhwydwaith cenedlaethol.

Dair blynedd a hanner ers dechrau’r prosiect o dan adain cwmni Golwg, mae yna wyth gwefan fro wedi’u sefydlu yn Arfon a gogledd Ceredigion… ac mae yna adroddiad newydd yn dangos bod brwdfrydedd mawr dros wefannau tebyg yn ne Ceredigion hefyd.

Fe lwyddodd yr wyth gwefan i barhau’n fyw ac yn fywiog trwy gyfnod y pandemig ac fe roddodd gwefan Bro360 gartref i fersiynau digidol o 37 o bapurau bro o bob cornel o’r wlad.

Wrth i’r prosiect peilot ddod i ben ddiwedd mis Mawrth, yr her fawr newydd yw dod o hyd i arian i gefnogi’r fenter, sy’n bartneriaeth rhwng y gwefannau bro a gwefan newyddion genedlaethol golwg360.

“Mae cael cefnogaeth i’r fenter yn allweddol i gynnal y gwaith mawr sydd wedi’i wneud eisoes ac i wireddu’r breuddwyd o gael rhwydwaith o wefannau bro ar hyd a lled Cymru,”

meddai Owain Schiavone, Cyfarwyddwr Bro360.

“Fe ddangosodd y gwefannau bro eu bod yn fwy na gwefannau newyddion; maen nhw hefyd yn tynnu cymdogaethau at ei gilydd ac yn hybu gweithgarwch Cymraeg y cymunedau – elfen hanfodol wrth anelu am filiwn o siaradwyr.”

A hoffech chi ddatblygu gwefan fro yn eich cymuned?

Llenwch ein holiadur byr heddiw.

Mae’n gyfle unigryw i wneud gwahaniaeth i’ch bro.