gan
Sion Wyn
Heddiw, (Dydd Gwener y 5ed o Awst) buodd Bois y Gilfach a Dewi Pws yn perfformio ‘Hwyl Hael Jacob’ yn y Tŷ Gwerin, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.
Roedd hi’n braf iawn gweld cynulleidfa niferus iawn a phawb yn mwynhau ac yn chwerthin! Detholiad o’r sioe wreiddiol o 2017 oedd y perfformiad, sef cyfuniad o rai o straeon, limrigau a chaneuon ysgafn y diweddar Jacob Davies.
“Bardd bach cyffredin o’r wlad dw’i,
Heb fawr o addysg na’r un ‘degree'”
Jacob Davies
Gallwch ddal Bois y Gilfach ar Lwyfan y Maes yfory (Dydd Sadwrn y 6ed o Awst) am 12 y.p. Cofiwch eu cefnogi.