GWYLIWCH: Rap Ysgol Nefyn

Mae gan blant Nefyn yr hawl i fyw adra!

Gwasg Carreg Gwalch
gan Gwasg Carreg Gwalch

Mae plant Ysgol Nefyn, tref sy’n cael ei heffeithio’n anghymesur gan yr argyfwng ail gartrefi wedi perfformio rap i ddatgan eu hawl i fyw adra.

Mae ffigyrau yn dangos bod 27% o dai Gwynedd wedi eu gwerthu fel ail gartrefi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn Nefyn ei hun, mae tua un rhan o bump o’r tai yn ail gartref.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 74.2% o drigolion Nefyn sy’n dair oed a hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Ond mae ffordd o fyw y dre dan fygythiad wrth i brisiau tai gynyddu y tu hwnt i gyrraedd pobl leol.

Ond yn ystod lansiad llyfr yn ddiweddar, perfformiodd disgyblion Ysgol Gynradd Nefyn eu rap eu hunain yn mynegi rhwystredigaeth pobol leol ynglŷn â’r sefyllfa.

Mae’r rap ‘Hawl i Fyw Adra’ yn benthyg ei enw o ymgyrch a sefydlwyd i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ddatrys yr argyfwng tai.

Perfformiwyd y rap gan ddisgyblion Ysgol Nefyn mwen lansiad llyfr newydd sy’n dogfennu cyfnod cythryblus Meibion Glyndŵr, mudiad a sefydlwyd mewn ymateb i’r argyfwng tai yn yr 1980au.

Mae Ga’ i Fyw Adra? gan Haf Llewelyn wedi’i gosod yn ystod gaeaf caled 1981, cyfnod pan oedd prisiau tai yn codi a phobl ifanc cefn gwlad Cymru yn methu â phrynu cartrefi yn eu bröydd. Yn ôl Gwasg Carreg Gwalch, mae’r nofel “yn parhau i fod yn berthnasol i fywyd yng Nghymru heddiw.”

Mae’r nofel yn dilyn Dafydd a Llinos wrth iddyn nhw geisio prynu eu cartref cyntaf yn eu bro enedigol, ac yn ei adolygiad ar Gwales mae Morgan Dafydd yn cyfaddef:

“Wrth ddarllen, roeddwn yn cydymdeimlo â Dafydd a Llinos, oedd eisiau byw a magu teulu ym mro eu mebyd, a bod y cyfle yn greulon o agos – ond eto mor bell i ffwrdd o’u gafael. Mae penbleth y cwpl ifanc yn codi cwestiwn mawr – oes gennym ni hawl sylfaenol i fyw adra?”

Mae Ga i fyw adra? ar gael yn eich siop lyfrau Gymraeg leol neu ar Gwales.com.