Map Gweithgareddau Cymraeg yng Ngwynedd

Gwahoddiad i hybu digwyddiadau lleol sydd yn cael eu cynnal yn y Gymraeg

gan Ant Evans
HysbysebMapGweithgareddau-1Mei Mac, Swyddog Prosiect Gwarchod Enwau Lleoedd Cynhenid Cyngor Gwynedd

Delwedd o fap gweithgareddau Cymraeg newydd Uned Iaith Cyngor Gwynedd, gan gynnwys Côd QR sydd yn agor y tudalen perthnasol

Mae Uned Iaith Cyngor Gwynedd wedi datblygu map rhyngweithiol er mwyn i glybiau a chymdeithasau cyfrwng Cymraeg Gwynedd allu hysbysebu eu gweithgareddau, ac er mwyn bod yn ffordd hwylus i bobl ddod o hyd i weithgareddau yn eu hardal leol.

Rydym yn gofyn i unrhyw glybiau neu gymdeithasau sydd yn cyfarfod yn rheolaidd yng nghymunedau’r sir, ac sydd yn croesawu aelodau newydd, i gofnodi gwybodaeth ar y map.  Does dim gwahaniaeth pwy yw’r gynulleidfa, dim ond eich bod yn cynnal gweithgareddau yn Gymraeg ac yn cyfarfod yn rheolaidd – bob wythnos neu bob mis – rhywle yng Ngwynedd.

Byddem yn ddiolchgar iawn petai modd i chi rannu y linc isod gyda’ch canghennau neu swyddogion lleol a gofyn iddynt lwytho gwybodaeth am eich gweithgareddau ar y map.

Map Gweithgareddau (llyw.cymru)

Os bydd unrhyw broblemau efo mewnbynnu gwybodaeth, cysylltwch efo ni ar iaith@gwynedd.llyw.cymru