Mae Uned Iaith Cyngor Gwynedd wedi datblygu map rhyngweithiol er mwyn i glybiau a chymdeithasau cyfrwng Cymraeg Gwynedd allu hysbysebu eu gweithgareddau, ac er mwyn bod yn ffordd hwylus i bobl ddod o hyd i weithgareddau yn eu hardal leol.
Rydym yn gofyn i unrhyw glybiau neu gymdeithasau sydd yn cyfarfod yn rheolaidd yng nghymunedau’r sir, ac sydd yn croesawu aelodau newydd, i gofnodi gwybodaeth ar y map. Does dim gwahaniaeth pwy yw’r gynulleidfa, dim ond eich bod yn cynnal gweithgareddau yn Gymraeg ac yn cyfarfod yn rheolaidd – bob wythnos neu bob mis – rhywle yng Ngwynedd.
Byddem yn ddiolchgar iawn petai modd i chi rannu y linc isod gyda’ch canghennau neu swyddogion lleol a gofyn iddynt lwytho gwybodaeth am eich gweithgareddau ar y map.
Map Gweithgareddau (llyw.cymru)
Os bydd unrhyw broblemau efo mewnbynnu gwybodaeth, cysylltwch efo ni ar iaith@gwynedd.llyw.cymru