Y gwefannau bro’n rhoi hwb i fusnesau bach

Lansio adnodd newydd Marchnad360, i helpu pobol siopa’n lleol

Lowri Jones
gan Lowri Jones
20220404_111209
20220404_142912
20220405_143246
received_965756854065227

Caffi Gray Thomas yng Nghaernarfon – aelod llawn cyntaf Marchnad360

received_1102112733685837

Crochendy Bethesda yn ymuno â’r Farchnad

20220405_160255

Diolch i Menter Iaith Bangor a siop Wild Origins am y croeso ddydd Mawrth!

20220405_142836

Yr wythnos hon lansiodd cwmni Golwg adnodd newydd i helpu pobol i siopa’n lleol – Marchnad360.

Aethom â’n ‘stondin’ ar wibdaith o gwmpas rhai o drefi marchnad Cymru, gan ymweld â Chaernarfon, Llanberis, Bethesda, Bangor, Machynlleth, Aberystwyth, Tregaron a Llanbed.

Cafwyd tipyn o hwyl wrth i bobol gymryd y cyfle i enwebu eu hoff fusnes lleol, trwy roi eu henw yn y peiriant gumball a rhoi’r cyfle i’r busnes ennill aelodaeth lawn ar Marchnad360.

Bu’n gyfle da i hyrwyddo’r ‘pic-a-mics’ o fusnesau bach amrywiol sydd ar gael yng Nghymru, ac annog pobol i siopa’n lleol cymaint â phosib.

Diolch yn fawr iawn i’r holl fusnesau a’n helpodd gyda’r lansio – o fenthyg cert i adael i ni osod stondin tu fas y caffi, i gynnig paneidiau o de i’n cynhesu!

Beth ydy Marchnad360?

Yn ei hanfod, cyfeirlyfr o fusnesau Cymru yw Marchnad360.cymru.

Gall busnesau o unrhyw fath – o siopau stryd fawr i gwmnïau sy’n cael eu rhedeg o fwrdd y gegin – greu proffil sylfaenol am ddim, a chael eu darganfod gan gwsmeriaid sy’n chwilio’r map ar y wefan neu’n pori eu gwefan fro.

Dyma sut mae creu proffil.

Pam ymuno?

Trwy ymaelodi a dod yn aelod llawn (£50 am y flwyddyn gyntaf) bydd modd i’r busnes gael manteision ychwanegol, sy’n cynnwys cyhoeddi straeon newyddion am y busnes, hyrwyddo’r busnes ar y gwefannau bro, manteisio ar sesiynau hyfforddi a rhwydweithio, a gallu hysbysebu ar golwg360 ac yn y cylchgrawn am bris gostyngol.

Yn ogystal, bydd y 50 aelod cyntaf i ymuno fel aelod llawn yn cael pecyn croeso, sy’n cynnwys arwydd ‘ar agor/ar gau’ a sticeri ’diolch’ i’ch cwsmeriaid.

Barn y busnesau

“Mae’n grêt gweld adnodd sy’n helpu pobol i siopa’n lleol. Gallai Marchnad360 wneud gwahaniaeth i fusnesau bach fel Siop y Pethe,” medd Aled Rees o Aberystwyth, wrth fynd ati i greu proffil ar y wefan.

Roedd Collie Gwyrdd yn fusnes arall oedd yn falch o’r cyfle i fod ar y map –

“Fi’n credu bod hwn yn scheme bach da i hybu busnesau bach, yn enwedig rhai sydd heb siop, fel ein busnes ni.” medd Manon.

Amdani!

Beth am fynd amdani, a chreu proffil i’r busnes ar Marchnad360?

Trwy wneud hynny, bydd eich busnes yn dod yn fwy gweladwy, a byddwch hefyd yn cefnogi eich gwefan fro i barhau fel adnodd pwysig yn lleol.