Guto y Teiliwr Bach: prosiect Cynefin Ysgol Bro Teifi 

Y disgyblion yn dysgu mwy am chwedl enwog ardal Llandysul

Bu grŵp o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 wrthi yn creu comig o’r chwedl ‘Guto y Teiliwr Bach’.

Mae hon yn chwedl enwog yn ardal Llandysul ac mae’r disgyblion wrth eu boddau yn gwrando arni o dro i dro.

Yn gyntaf, rhaid oedd dewis y prif ddigwyddiadau yn y stori – 5 i gyd ac yna mynd ati I ddewis y math orau o dempled y byddai yn gweddu orau i’n chwedl ni.  Bant â ni wedyn!

Bu darlunio manwl, lliwio gofalus heb sôn am y gwaith tîm arbennig!

Mwynhaodd y disgyblion yn fawr gan ddysgu sgiliau newydd di-ri.  Rydym yn hapus iawn gyda’n comig.  Diolch yn fawr i Beth a chriw CISP Multimedia am ein helpu!

Edrychwn ymlaen yn eiddgar i weld y comig yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ym mis Awst.