Bu grŵp o ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 wrthi yn creu comig o’r chwedl ‘Guto y Teiliwr Bach’.
Mae hon yn chwedl enwog yn ardal Llandysul ac mae’r disgyblion wrth eu boddau yn gwrando arni o dro i dro.
Yn gyntaf, rhaid oedd dewis y prif ddigwyddiadau yn y stori – 5 i gyd ac yna mynd ati I ddewis y math orau o dempled y byddai yn gweddu orau i’n chwedl ni. Bant â ni wedyn!
Bu darlunio manwl, lliwio gofalus heb sôn am y gwaith tîm arbennig!
Mwynhaodd y disgyblion yn fawr gan ddysgu sgiliau newydd di-ri. Rydym yn hapus iawn gyda’n comig. Diolch yn fawr i Beth a chriw CISP Multimedia am ein helpu!
Edrychwn ymlaen yn eiddgar i weld y comig yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ym mis Awst.