Sut mae gosod eich busnes ar Marchnad360?

Mae ymuno â’r lle ar y we i fusnesau bach Cymru yn hawdd!

Lowri Jones
gan Lowri Jones
iStock-1329619660-copy

Yn fusnes bach neu fawr, hen neu newydd, yn siop neu’n gweithio o fwrdd y gegin adref, Marchnad360 yw’r lle i fod.

Ein bwriad yw cefnogi eich busnes, a’ch helpu i lwyddo.

Gyda’n gilydd, gallwn greu’r ffenest siop gorau i fusnesau Cymru.

Pam ymaelodi?

  • Siopa’n lleol: Yn debyg i farchnad draddodiadol, bydd cael pawb mewn un man ar y we yn helpu pobol i siopa’n lleol – rhywbeth sy’n bwysicach nag erioed i lawer.
  • Rhannu syniadau: Fel aelod o’r fforwm i berchnogion busnes, cewch drafod syniadau, derbyn cymorth a chreu cysylltiadau newydd gyda phobol o’r un anian â chi.
  • Cyrraedd y gynulleidfa: Byddwch yn fwy gweladwy i gwsmeriaid newydd, ac yn gallu hyrwyddo cynigion arbennig a rhannu straeon sy’n denu sylw i’ch busnes.

Sut i greu eich proffil busnes:

  1. Ewch i wefan y Farchnad a dewis Ychwanegu busnes.
  2. Os oes gennych gyfrif ar un o wefannau 360 yn barod, mewngofnodwch – neu dewiswch Ymuno i greu cyfrif newydd. Eich cyfrif personol yw hwn, felly defnyddiwch eich enw eich hun.
  3. Gallwch ddewis ymuno fel aelod cyfyngedig neu aelod llawn, sydd â nifer o fanteision ychwanegol.
  4. Os yw proffil eich busnes yn ymddangos ar y farchnad yn barod, bydd angen i chi ei hawlio (er mwyn gallu diweddaru’r wybodaeth ac ati). Porwch drwy fusnesau’r Farchnad a dewis hawlio’r busnes.
  5. Fel arall, ewch ati i greu proffil busnes. Cofiwch ychwanegu llun da o’ch cynnyrch neu fusnes (bydd hynny’n well na logo), a rhoi pin ar y map i ddangos eich union leoliad.
  6. Cyflwynwch eich proffil i’w gyhoeddi. (Mae aelodau llawn yn gallu cyhoeddi’n syth.)

Sut i newid i fod yn aelod llawn

Os ydych chi eisoes wedi creu neu hawlio eich proffil busnes gydag aelodaeth am ddim o’r Farchnad, gallwch uwchraddio’ch cyfrif ar unrhyw adeg i gymryd mantais o holl fuddiannau aelodaeth lawn.

Pam ymuno fel aelod llawn?

Fe gewch chi lawer mwy allan o’r Farchnad trwy ymuno fel aelod llawn, ac yn ystod 2022 mae modd ymaelodi am flwyddyn am bris arbennig: dim ond £50 (+TAW).

Gallwch fanteisio ar sylw ehangach ar gyfryngau cymdeithasol, y gallu i rannu hyd at bedair stori amlgyfrwng y flwyddyn ar eich gwefan fro, a chael ymuno â sesiynau rhwydweithio a hyfforddi.

Ymunwch â Marchnad360 heddiw – y lle ar y we i holl fusnesau Cymru!

Mwy nag un lingo!

20:00, 18 Ebrill (Am ddim)

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)