Genod ifanc Bethesda yn cipio prif wobr Bro360

Gwobrau Bro360 2022 yn ddathliad o gyfraniad pobol ar lawr gwlad i’w gwefan fro

Lowri Jones
gan Lowri Jones
Barn y bobol

Cyhoeddi enillwyr y bleidlais gyhoeddus yn fyw ar noson y Gwobrau

Caty ac Ela o Ogwen360 enillodd gategori ‘Barn y bobol’ Gwobrau Bro360 2022, wedi i dros 850 o bobol fwrw eu pleidlais.

Cafodd enillydd pob un o 10 categori’r gwobrau blynyddol eu cyhoeddi ddydd Gwener 28 Ionawr ar draws gwahanol blatfformau, mewn diwrnod oedd yn dathlu cyfraniad pobol leol i’w gwefan fro.

Ar ôl wythnos o bleidleisio, datgelwyd mai’r genod o Fethesda ddaeth i’r brig ym Marn y bobol, gyda’u stori ‘Cadw strydoedd Bethesda yn lân’.

clawr

Cadw strydoedd Bethesda yn lân

Mae dwy chwaer wedi cael llond bol ar weld baw ci wedi ei adael ar y palmant ac wedi mynd ati i annog perchnogion i lanhau ar ôl eu hanifeiliaid. 

 

Trwch blewyn oedd ynddi! Wyth pleidlais y tu ôl oedd cyfweliad Alpha â Phrif Lenor Eisteddfod T, Sioned Howells ar Clonc360, ac yn drydydd oedd Brengain gyda’i blog byw o ŵyl fro BangorFelin360.

Hon oedd yr ola o 10 categori i gael eu cyhoeddi yn ystod y dydd. Dyma weddill yr enillwyr.

Enillwyr Gwobrau Bro360 2022

 

Llongyfarchiadau – nid yn unig i’r enillwyr, ond i bawb gyfrannodd at gyhoeddi 1,700 a mwy o straeon lleol gan bobol leol ar y gwefannau bro yn 2021.