Caty ac Ela o Ogwen360 enillodd gategori ‘Barn y bobol’ Gwobrau Bro360 2022, wedi i dros 850 o bobol fwrw eu pleidlais.
Cafodd enillydd pob un o 10 categori’r gwobrau blynyddol eu cyhoeddi ddydd Gwener 28 Ionawr ar draws gwahanol blatfformau, mewn diwrnod oedd yn dathlu cyfraniad pobol leol i’w gwefan fro.
Ar ôl wythnos o bleidleisio, datgelwyd mai’r genod o Fethesda ddaeth i’r brig ym Marn y bobol, gyda’u stori ‘Cadw strydoedd Bethesda yn lân’.
Cadw strydoedd Bethesda yn lân
Trwch blewyn oedd ynddi! Wyth pleidlais y tu ôl oedd cyfweliad Alpha â Phrif Lenor Eisteddfod T, Sioned Howells ar Clonc360, ac yn drydydd oedd Brengain gyda’i blog byw o ŵyl fro BangorFelin360.
Hon oedd yr ola o 10 categori i gael eu cyhoeddi yn ystod y dydd. Dyma weddill yr enillwyr.
Enillwyr Gwobrau Bro360 2022
- Cyfranogwr ifanc y flwyddyn: Brengain Glyn o BangorFelin360
- Blog byw y flwyddyn: Enfys Medi o BroAber360, am ei ffrwd byw o Farchnad y Ffermwyr Aberystwyth
- Cydweithio pert â’r papur bro: Clonc a Clonc360, am eu fideos trafod y rhifyn diweddaraf gyda’r golygydd
- Stori gwneud gwahaniaeth y flwyddyn: Canu tu fas cartrefi gofal gan Enfys Hatcher-Davies ar Caron360
- Fideo y flwyddyn: Uchafbwyntiau Nantlle Vale v Y Felinheli, gan Begw Elain ar DyffrynNantlle360
- Cyfres straeon y flwyddyn: ‘Gweithwyr allweddol’ Caron360
- Digwyddiad Gŵyl Bro: JENGYD gan Caron360
- Stori leol orau gan golwg360: Cais cynllunio dadleuol, gan Shân Pritchard
- Gwasanaeth lleol y flwyddyn: Caernarfon360 a Caron360
- Barn y bobol: Caty ac Ela o Ogwen360
Llongyfarchiadau – nid yn unig i’r enillwyr, ond i bawb gyfrannodd at gyhoeddi 1,700 a mwy o straeon lleol gan bobol leol ar y gwefannau bro yn 2021.