Y Frenhines a’i gosgordd a’r holl wisgo lan: Carnifal Felin-fach

Uchafbwyntiau a chanlyniadau’r cystadlu yng Ngharnifal Felin-fach ddydd Sadwrn

Alaw Fflur Jones
gan Alaw Fflur Jones
IMG_4854-1

Y Frenhines, Sioned Evans, Dol Aeron, Felin-fach a’u gosgordd: Lisa Anni Vaughan Miles; Lina Powell; Dafydd Caio Dalton; Siencyn Lewis; Ianto Tomos Thomas a Llion Wyn Wright.

IMG_4855-1

Coronwyd y Frenhines, Sioned Evans gan feirniaid y Carnifal, Mrs Fanw Davies, Madryn Aberaeron a Mrs Tess Price, Tangraig, Ystard Aeron.

IMG_4857

Cymeriad gorau o dan 2 ½ oed: 1. Bedwyr Jones (canol) 2. Lili Brown (chwith) 3. Mabli Jones a Sion Davies (dde)

IMG_4858

Cymeriad gorau 2 ½ – 4 oed: 1. Aron Davies (chwith) 2. Dion Williams (dde)

IMG_4859

Cymeriad gorau Bl. Meithrin/Derbyn Cynradd: 1. Deio Efans (canol) 2. Sian Hodgson (dde) 3. Fflur Thomas (chwith)

IMG_4860

Cymeriad gorau Bl.1 a 2: 1. Bleddyn Thomas (canol) 2. Iestyn Wright (dde) 3. Mari Dalton (chwith)

IMG_4861

Cymeriad gorau Ysgol Uwchradd: 1. Leila Brown

IMG_4862

Pâr gorau: 1. Deio ac Anest Efans

IMG_4863

Gwisg orau – gwryw fel benyw: 1. Louis Thomas

IMG_4864

Gwisg orau – benyw fel gwryw: 1. Sian Hodgson (dde) 2. Alaw Fflur Jones (canol) 3. Kelly Davies (chwith)

IMG_4865

Cymeriad teledu: 1. Louis Thomas (dde) 2. Nemo Wood (chwith) 3. Connor Wood (canol)

IMG_4856-1

Enillydd Tarian her y Carnifal: Aron Davies

IMG_4866

Beirniaid y Carnifal, Mrs Fanw Davies, Madryn Aberaeron a Mrs Tess Price, Tangraig, Ystrad Aeron.

Croesawyd Carnifal yn ôl i Felin-fach eleni ar ddydd Sadwrn, 2il o Orffennaf yng Nghae Chwarae’r pentref. Braf oedd gweld y gymuned ynghyd unwaith eto, yn llawn bwrlwm a chystadlu.

Dechreuwyd y diwrnod tu allan i’r Neuadd Goffa er mwyn tywys y Frenhines, Sioned Evans, Dol Aeron, Felin-fach a’i gosgordd: Lisa Anni Vaughan Miles; Lina Powell; Dafydd Caio Dalton; Siencyn Lewis; Ianto Tomos Thomas a Llion Wyn Wright i’r cae.

Yn eu ffrogiau hardd a’u crysau smart, cyrhaeddodd y Frenhines a’i gosgordd y Carnifal mewn steil ac hynny dan ofal y ‘chauffeur’, Glyn Davies, Lloyd Jack.

Coronwyd y Frenhines gan feirniaid y Carnifal, Mrs Fanw Davies, Madryn Aberaeron a Mrs Tess Price, Tangraig, Ystrad Aeron.

Bu’r beirniaid hefyd yn brysur yn crafu pen am weddill y prynhawn wrth feirniadu cystadlaethau’r Carnifal.

O reolwr newydd y Vale, i Nick ‘Goose’ Top Gun, i ddathlu canmlwyddiant yr Urdd, cafwyd cystadlu brwd ym mhob dosbarth yn y cystadlaethau gwisgo fyny.

Dyma ganlyniadau’r cystadlaethau gwisgo lan:

Cymeriad gorau o dan 2 ½ oed: 1. Bedwyr Jones 2. Lili Brown 3. Mabli Jones a Sion Davies

Cymeriad gorau 2 ½ – 4 oed: 1. Aron Davies 2. Dion Williams

Cymeriad gorau Bl. Meithrin/Derbyn Cynradd: 1. Deio Efans 2. Sian Hodgson 3. Fflur Thomas

Cymeriad gorau Bl.1 a 2: 1. Bleddyn Thomas 2. Iestyn Wright 3. Mari Dalton

Cymeriad gorau Bl.5 a 6: 1. Liwsi Brown 2. Nemo Wood 3. Llyr Dalton a Cai Evans

Cymeriad gorau Ysgol Uwchradd: 1. Leila Brown

Cymeriad mwyaf doniol o dan 16 oed: 1. Bedwyr Jones 2. Leila Brown 3. Bleddyn Thomas a Sian Hodgson

Pâr gorau: 1. Deio ac Anest Efans 2. Leila a Liwsi Brown 3. Iestyn Wright a Bedwyr Jones

Gwisg orau – benyw fel gwryw: 1. Sian Hodgson 2. Alaw Fflur Jones 3. Kelly Davies

Gwisg orau – gwryw fel benyw: 1. Louis Thomas

Cymeriad teledu: 1. Louis Thomas 2. Nemo Wood 3. Connor Wood

Enillydd Tarian her y Carnifal: Aron Davies

Dilynwyd y Carnifal gyda Mabolgampau, gêm o rownderi a thynnu’r gelyn, cyn gorffen y diwrnod yn cymdeithasu dros gyrri a tsips gan Cegin Pantygwin a pheint wrth y bar gan Fenter Tafarn y Vale.

A dyna ’ny, holl hynt ac helynt Carnifal Felin-fach tan flwyddyn nesa’…

Mae’r stori yma’n dangos beth sy’n bosib ar y rhwydwaith gwefannau bro. Wythnos nesa, bydd gan Ddyffryn Aeron gyfle i greu ein gwefan fro ein hunain – lle ar y we i glymu popeth sy’n bwysig yn lleol. Ymunwch â ni yn y sesiwn sefydlu ar 13 Gorffennaf.