Eisteddfod Ceredigion 2022: pwy yw’r cyn-enillwyr lleol?

Cyfle i gasglu enwau’r Cardis sydd wedi ennill prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Oes Prifardd yn eich pentre?

Dysgwr y flwyddyn yn y dalgylch?

Yw’ch cymydog wedi ennill Rhuban Glas?

Wrth i Geredigion baratoi i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r sir eleni, dyma gyfle heddiw i gasglu enwau’r holl Gardis sydd wedi ennill prif wobrau’r brifwyl.

Pa brif wobrau?

Cadair, coron, medal wyddoniaeth neu’r Llwyd o’r Bryn… os ydych chi’n ei ‘styried yn ‘brif wobr’, yna mae’n brif wobr!

Pa Gardis?

Rhai sydd wedi’u geni yma, rhai sydd wedi symud yma, rhai byw a rhai sydd wedi’n gadael ni…

Os ydych chi’n gwybod am rywun o’ch bro sydd wedi ennill prif wobr, cofiwch ei ychwanegu at y rhestr, trwy ymuno/mewngofnodi, a phwyso ‘ychwanegu diweddariad’ isod.

16:05

Diolch John a William am ddechrau arni!

Tybed oes mwy o gyn-enillwyr, o orde’r sir efallai?

A pwy, tybed yw’r cyn-enillydd enwocaf?!

14:24

1966 – Y Goron i Dafydd Jones, Y Fron, Ffair Rhos – pryddest – Y Clawdd

1955 a 1960 Y Goron i W J Gruffydd am Ffenestri ac Unigedd.

Bu’n Archdderwydd hefyd rhwng 1984 -1987- ac yn dod o Ffair Rhos.

12:25

11 Rhuban Glas hyd yn hyn i Geredigion:

1970 Dai Jones, Llanilar

1974 Angela Rogers Davies, Cribyn

1976 Berwyn Davies, Aberaeron

1981 Gwion Thomas, Betws Bledrws

1982 Eirwen Hughes, Penrhyn-coch

1993 Washington James, Cenarth

1994 Delyth Hopkins Evans, Pontrhydygroes

1995 Sian Cothi, Ffarmers

2007 Robyn Lyn Evans, Pontrhydygroes

2011 Gwyn Morris, Aberteifi

2016 Kees Huysmans, Llandysul

Oes unrhyw sir arall yn gallu rhagori ar hyn?

Rhiannon Lewis
Rhiannon Lewis

Ac Evan Lloyd (Aberaeron) 1961

Rhiannon Lewis
Rhiannon Lewis

A Meinir Jones Williams 1990

Mae’r sylwadau wedi cau.

12:23

Ydych chi’n gw’bod am enillydd o’ch ardal chi?

Rhannwch y wybodaeth heddiw – mae’n hawdd:

– mynd i dop y sgrîn i Ymuno / Mewngofnodi

– pwyso ‘ychwanegu diweddariad’ yn y blog byw

– sgwennu bach o wybodaeth, a chlicio ‘cadw newidiadau’ a ‘barod i’w gyhoeddi’

11:46

Eira Gwyn yn Salmon

Dafydd Ifans, Penrhyn-coch enillydd y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin, 1974.

10:36

Daniel yn ennill y Daniel: Daniel Davies, Pen-bont Rhydybeddau  – ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011

10:28

Eirwen Hughes, Pen-cwm, Penrhyn-coch, enillydd y Rhuban Glas, Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1982.

10:26

IfansRhiannon2019b

Rhiannon Ifans, Penrhyn-coch

Rhiannon Ifans, enillydd y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 2019

Mae’r sylwadau wedi cau.