Eisteddfod Ceredigion 2022: pwy yw’r cyn-enillwyr lleol?

Cyfle i gasglu enwau’r Cardis sydd wedi ennill prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Oes Prifardd yn eich pentre?

Dysgwr y flwyddyn yn y dalgylch?

Yw’ch cymydog wedi ennill Rhuban Glas?

Wrth i Geredigion baratoi i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r sir eleni, dyma gyfle heddiw i gasglu enwau’r holl Gardis sydd wedi ennill prif wobrau’r brifwyl.

Pa brif wobrau?

Cadair, coron, medal wyddoniaeth neu’r Llwyd o’r Bryn… os ydych chi’n ei ‘styried yn ‘brif wobr’, yna mae’n brif wobr!

Pa Gardis?

Rhai sydd wedi’u geni yma, rhai sydd wedi symud yma, rhai byw a rhai sydd wedi’n gadael ni…

Os ydych chi’n gwybod am rywun o’ch bro sydd wedi ennill prif wobr, cofiwch ei ychwanegu at y rhestr, trwy ymuno/mewngofnodi, a phwyso ‘ychwanegu diweddariad’ isod.

10:36

Daniel yn ennill y Daniel: Daniel Davies, Pen-bont Rhydybeddau  – ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011

10:28

Eirwen Hughes, Pen-cwm, Penrhyn-coch, enillydd y Rhuban Glas, Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1982.

10:26

IfansRhiannon2019b

Rhiannon Ifans, Penrhyn-coch

Rhiannon Ifans, enillydd y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 2019

Mae’r sylwadau wedi cau.