Deugain o fusnesau bach yn cydweithio i ddenu ymwelwyr yr Eisteddfod

‘Wal siopa’n lleol’ Marchnad360 i ymddangos ar faes y brifwyl eleni

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae deugain o gwmnïau annibynnol Ceredigion wedi uno i hyrwyddo ei gilydd erbyn ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ar y maes eleni fe welwch wal newydd sbon. Mae Wal siopa’n lleol Marchnad360 yn cynnwys map a rhestr o fusnesau o bob math – o lefydd bwyta i gynnyrch harddwch i wasanaethau creadigol.

Fe gewch ragor o fanylion am bob busnes ar-lein ar Marchnad360.cymru, a thrwy wefannau bro Ceredigion (BroAber360, Caron360 a Clonc360).

Bydd Marchnad360 yn cynnal sgwrs banel ar stondin Golwg ar y maes ar Gryfhau’r cylch economi lleol. Ymunwch ag Angharad Morgan (Siop Inc), Arwel Jones (Clwb Bowls Tregaron) a’r Cyng. Clive Davies fore Gwener 5 Awst, 11.15am.

Felly cofiwch – os byddwch chi’n ymweld â Cheredigion ymhen rhai wythnosau ac yn dymuno treulio ychydig o amser oddi ar y maes, ewch am dro, a mwynhau siopa’n lleol!

Diolch i’r holl fusnesau am fuddsoddi yn y rhwydwaith o wefannau bro a chadw’r cylch economi lleol i fynd.