Darganfod cyn-enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod ym mhob cwr o Geredigion

Pobol Ceredigion wedi creu map sy’n dangos bod enwogion eisteddfodol i’w cael ym mhob bro

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae dros 75 o Gardis wedi ennill rhai o brif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol dros y blynyddoedd.

Mewn blog byw ar wefan Bro360, bu rhai o steddfotwyr brwd y sir yn casglu a rhannu enwau rhai o’r cyn-enillwyr lleol.

Cymerwch olwg ar y map byw o’r cyn-enillwyr lleol, a chliciwch ar y sêr i weld y manylion.

Oeddech chi’n gwybod bod Prifardd yn dod o ochre’ Llanrhystud? Pwy yw’r cantor o Gribyn?

Ac er bod llwyth o gyn-enillwyr i’r gogledd o Aberystwyth… tybed oes mwy?

 

Angen eich help i wella’r map

Mae’r enwau canlynol wedi’u cynnig fel cyn-enillwyr amrywiol wobrau, ond tybed a ydych chi’n gwybod pa fro maen nhw’n gysylltiedig â hi?

Ac oes enillwyr eraill heb eu cofnodi eto?

Rhowch w’bod yn y sylwadau isod.

 

Y Fedal Ryddiaith

1946 Dafydd Jenkins

1951 Islwyn Ffowc Elis

1976 Marged Pritchard

1977 R Gerallt Jones

1979 R Gerallt Jones

Y Fedal Ddrama

2015 Wyn Mason

Y Goron

1992 Cyril Jones

Gwobr Goffa Ruth Herbert 

1995 Caryl Ebenezer

Ysgoloriaeth W Towyn Roberts

1982 Mari Ffion Williams

1984 Aneurin Hughes

1993 Elen Môn

Y Rhuban Glas

1990 Meinir Jones Williams

 

Gyda’n gilydd, gallwn greu adnodd all ysbrydoli ambell gymuned i fynd ati i ddathlu eu harwyr eisteddfodol mewn rhyw ffordd…

4 sylw

William Howells
William Howells

1946 Dafydd Jenkins = Aberystwyth
1951 Islwyn Ffowc Elis = Llambed
1976 Marged Pritchard = ganed Tregaron
1977 R Gerallt Jones = Dol-y-bont
2015 Wyn Mason = Llanfarian
1992 Cyril Jones = Pennant
1995 Caryl Ebenezer = Bow St
1982 Mari Ffion Williams = Synod Inn
1984 Aneurin Hughes = Penbont Rhyd-y-beddau
1993 Elen Mon = Ffos-y-ffin
1990 Meinir Jones Williams = Cwmann

William Howells
William Howells

Hefyd:
Llewelyn Jones, Y Goron, Glyn Ebwy, 1958 = g. Comins Coch
R. Bryn Williams, Y Gadair, Abertawe a’r cylch, 1964; Y Gadair, Y Barri, 1968 = Llanbadarn Fawr
Harri Williams, Y Fedal Ryddiaith, Caerdydd, 1978 = Aberystwyth

Lowri Jones
Lowri Jones

gwych William! lwcus bod da chi gof da!

Mae’r sylwadau wedi cau.