Mae dros 75 o Gardis wedi ennill rhai o brif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol dros y blynyddoedd.
Mewn blog byw ar wefan Bro360, bu rhai o steddfotwyr brwd y sir yn casglu a rhannu enwau rhai o’r cyn-enillwyr lleol.
Cymerwch olwg ar y map byw o’r cyn-enillwyr lleol, a chliciwch ar y sêr i weld y manylion.
Oeddech chi’n gwybod bod Prifardd yn dod o ochre’ Llanrhystud? Pwy yw’r cantor o Gribyn?
Ac er bod llwyth o gyn-enillwyr i’r gogledd o Aberystwyth… tybed oes mwy?
Angen eich help i wella’r map
Mae’r enwau canlynol wedi’u cynnig fel cyn-enillwyr amrywiol wobrau, ond tybed a ydych chi’n gwybod pa fro maen nhw’n gysylltiedig â hi?
Ac oes enillwyr eraill heb eu cofnodi eto?
Rhowch w’bod yn y sylwadau isod.
Y Fedal Ryddiaith
1946 Dafydd Jenkins
1951 Islwyn Ffowc Elis
1976 Marged Pritchard
1977 R Gerallt Jones
1979 R Gerallt Jones
Y Fedal Ddrama
2015 Wyn Mason
Y Goron
1992 Cyril Jones
Gwobr Goffa Ruth Herbert
1995 Caryl Ebenezer
Ysgoloriaeth W Towyn Roberts
1982 Mari Ffion Williams
1984 Aneurin Hughes
1993 Elen Môn
Y Rhuban Glas
1990 Meinir Jones Williams
Gyda’n gilydd, gallwn greu adnodd all ysbrydoli ambell gymuned i fynd ati i ddathlu eu harwyr eisteddfodol mewn rhyw ffordd…