Cyhoeddi rhestrau byr Gwobrau Bro360 2022

Cynnal diwrnod i ddathlu straeon lleol gan bobol leol ar 28 Ionawr

Lowri Jones
gan Lowri Jones

I ddathlu cyfraniad pobol ar lawr gwlad i’w gwefan fro, bydd Gwobrau Bro360 yn cael eu cynnal ddydd Gwener 28 Ionawr.

Er na fydd modd cynnal seremoni go iawn eleni eto, er mwyn cadw pawb yn saff, bydd enillwyr y 10 categori’n cael eu cyhoeddi ar draws gwahanol gyfryngau yn ystod y dydd.

Mae sawl categori newydd eleni, sy’n cynnwys Blog byw y flwyddyn, Digwyddiad Gŵyl Bro y flwyddyn, a’r esiampl gorau o gydweithio rhwng y wefan a’r papur bro.

Yn ogystal, bydd cyfle eleni eto i ddathlu rhai o’r cyfranwyr ifanc disgleiriaf, a’r straeon sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’r gymuned leol.

Bydd cyfle i chi ddewis enillydd gwobr barn y bobol, wrth ddewis eich hoff stori ar draws y gwefannau bro yn ystod 2021. Bydd y rhestr fer yn cael ei chyhoeddi yma ar 21 Ionawr, gyda modd i bawb bleidleisio am y stori leol fwyaf poblogaidd.

Dyma ni, y straeon a’r cyfranwyr sy’n cyrraedd y rhestrau byr ym mhob categori:

 

Cyfranogwr ifanc y flwyddyn

Cydweithio pert â’r papur bro

Fideo y flwyddyn

Blog byw y flwyddyn

Cyfres y flwyddyn 

Stori gwneud gwahaniaeth

Digwyddiad Gŵyl Bro y flwyddyn

  • Gŵyl Bro Y Felinheli
  • Gig Noson Ogwen
  • Pnawn yn llyfrgell ffeirio planhigion Gerlan
  • Stafell ddianc JENGYD
  • Tregaroc bach bach
  • Helfa drysor Llanbed
  • Oedfa Siloh Llanbed
  • Helfa drysor Gorsgoch
  • Cerdded, crafu pen, clonc a chacen Y Ddolen
  • Parti Pentre Ponterwyd
  • Taith gerdded Bow Street a Llandre
  • Gŵyl Nôl Da’n Gilydd Cribyn

 

Pob lwc i bawb!