All cyfryngau digidol wneud lles i’n cymunedau?

Cyhoeddi manylion cyfres o sgyrsiau byw gan Golwg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

Lowri Jones
gan Lowri Jones
1

Bydd cyfres o sgyrsiau’n cael eu cynnal ar Stondin Golwg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn edrych ar sut gall cyfryngau digidol, gan-y-bobol, atgyfnerthu bywyd ein cymunedau.

O’r berthynas rhwng papurau a gwefannau bro, i roi hwb i’r economi leol, i gasglu syniadau am ap newydd i hyrwyddo digwyddiadau bach a mawr… mae tipyn o amrywiaeth yn eich disgwyl ar faes y brifwyl eleni.

Mae gwahoddiad agored i bawb ymlwybro draw cyn cinio i ymuno yn y sesiynau yma:

Dydd Sadwrn 11.15am

Papurau a gwefannau bro: cystadlu neu gryfhau?

Sgwrs banel yng nghwmni Y Barcud, Caron360, Clonc360, Goriad a mwy.

 

Dydd Mawrth 11.15am

Effaith newyddion gan-y-bobol

Sgwrs banel yng nghwmni Ifan Morgan Jones (nation.cymru), Jason Evans (Wiki Cymru), Euros Lewis (y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol) a Dylan Iorwerth.

Yn dilyn y sgwrs bydd Golwg yn lansio botwm ‘Cefnogi’ y gwefannau bro – y nodwedd fydd yn helpu i sicrhau parhad a datblygiad y rhwydwaith. A bydd cyfle i gyfranogwyr Bro360 gael sgwrs, rhannu syniadau a dathlu eu llwyddiant hyd yma!

 

Dydd Iau 11.15am

Digwyddiadau’n dod â bywyd i’n cymunedau

Yn y sesiwn agored hon gan Calendr360 byddwn yn rhannu profiadau a chynghorion ar hyrwyddo digwyddiadau’n llwyddiannus yn y Gymraeg, ac yn edrych ar bosibiliadau datblygu ap newydd.

 

Dydd Gwener 11.15am

Cryfhau’r cylch economi lleol

Sgwrs banel gan Marchnad360 yng nghwmni Arwel Jones (Tregaron), Angharad Morgan (Siop Inc, Aberystwyth), y Cyng. Clive Davies (aelod cabinet Ceredigion dros yr economi) a mwy.

 

Dydd Sadwrn 11.45am

Y ’Steddfod yn gadael gwaddol yn lleol

Codi arian, codi hwyl, creu a denu’r di-Gymraeg…

Cyfle agored i rannu profiadau cymunedau Ceredigion o gynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru gyda chymunedau’r dyfodol, ac i ddiolch am gyfraniad y Cardis.

 

Ac un peth eithaf gwahanol…

Byddwn yn cynnal Twrnament Tipit Bro360 ar y dydd Mercher! Dewch draw i gofrestru tîm o 3 o’ch pentre chi, i gael gweld pwy yw pencampwyr tipit Cymru!