“Ewch amdani” oedd cyngor y cyn-beldroediwr a’r sylwebydd Malcolm Allen i griw o bobol ifanc Môn ddydd Mawrth, wrth iddynt gymryd rhan mewn Diwrnod Gohebwyr Chwaraeon yn Llangefni.
Daeth 35 o bobol ifanc ynghyd am hyfforddiant ac ysbrydoliaeth i fynd ati i ohebu ar eu clybiau chwaraeon lleol – a hynny yn y Gymraeg.
Uchafbwynt y diwrnod oedd cynnal cynhadledd i’r wasg, fu’n gyfle i bawb holi Malcolm Allen a Begw Elain am eu profiadau’n sylwebu a gohebu (a chwarae!) pêl-droed.
Daeth Owain Llyr a Mark o gwmni Gweledigaeth draw i gynnig tips ymaferol ar sut i saethu a golygu fideos uchafbwyntiau, gan ddangos bod modd i’r criw ifanc gyflawni cymaint jest o ddefnyddio eu ffôn poced.
‘Beth sy’n gwneud stori dda?’ oedd un o’r cwestiynau y bu Catrin Angharad a Lowri Jones yn mynd ar ei ôl wrth agor fyny’r maes gohebu.
Annog pawb i ddechrau gohebu ar eu clybiau lleol wnaeth Gary Pritchard, sy’n gynhyrchydd erbyn hyn gyda rhaglen Sgorio ar S4C:
“Roedd y profiad o fod yn gneud petha llawr gwlad yn hollbwysig – yn magu cysylltiadau a dysgu sut i siarad gyda phobol. mae gwneud hyn ar lefel leol yn rhoi building blocks i chi ar gyfer symud ymlaen:
Fe esboniodd hefyd na fyddai’n gwneud yr hyn mae’n ei wneud heblaw am y Gymraeg, gan bod hynny wedi agor dwbl y drysau iddo.
Cafodd y diwrnod ei drefnu gan Bro360 a Menter Iaith Môn, dan nawdd Menter Môn.