Tân ar y comin: prosiect Cynefin Ysgol T Llew

Oeddech chi’n gw’bod bod ein hysgol wedi’i lleoli ar hen gae sipsiwn?

gan Eleri Jones

Mae disgyblion blwyddyn 5 a 6 Ysgol T Llew Jones wedi bod wrthi’n cynllunio stori fwrdd ar Tân ar y Comin ar gyfer y prosiect Cynefin.

Roedd Tân ar y Comin yn ddewis amlwg i ni fel Ysgol, nid yn unig oherwydd yr awdur (T Llew Jones!) ond hefyd gan bod ein hysgol wedi’i lleoli ar hen gae sipsiwn.

Rydym yn falch iawn o’n cymuned, ac mae hi wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o’r prosiect arbennig, unigryw yma. Diolch o galon, Ysgol T Llew Jones.