Clebran am y Gadair

Enillwyr Llên Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc 2021 yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Sion Wyn
gan Sion Wyn
4110918B-2A14-44AB-90E4

Cynhaliwyd sgwrs dan arweiniad Caryl Haf, Cadeirydd CFfI Cymru, yng nghwmni, Carwyn Jones, Prif Lenor Eisteddfod CFfI 2021 ac Ianto Jones, Prif Fardd Eisteddfod CFfI 2021.

Dyma’r tro cyntaf i’r mudiad gynnal digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Crwt lleol yw Ianto, yn fab fferm Frongelyn, Cribyn. Mae’n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Felinfach ers bron i ddeg mlynedd bellach a disgrifiodd y mudiad fel un “croesawgar a chartrefol” yn ystod y sgwrs.

Testun y gerdd a gipiodd y gadair oedd ‘Ffin’ a dywedodd Ianto ei fod yn destun “agored iawn” a bod “sawl llwybr i fynd lawr”.

Penderfynodd ysgrifennu am sefyllfa druenus a chyfoes, ffoaduriaid. Dywedodd “roedd angen syniad unigryw – a bod angen meddwl tu allan i’r bocs!” Roedd y ffaith bod llawer o sylw am y mater ar y newyddion yn sbardun i’r gerdd – ac roedd yn “rhywbeth oedd yn werth ysgrifennu amdano”.

Aeth Ianto yna ymlaen i drafod y tair rhan i’w gywydd, sy’n cynnwys y profiadau, y broses o groesi’r môr a’r neges, sef yr angen i ni fel cenedl ysgwyddo mwy o faich a helpu’n gilydd.

Roedd hi’n bwysig “cyfleu’r syniad mewn modd unigryw.”

Disgrifiodd Caryl Haf gerdd Ianto fel “geirie pwerus iawn”.

Yn ogystal â hyn mae Ianto wedi cystadlu mewn eisteddfodau lleol ac wedi dod yn fuddugol mewn cystadlaethau tlysau’r ifanc ac mae bellach yn aelod o Ysgol Farddol Caerfyrddin.