CFfI Ceredigion yn yr Eisteddfod

#steddfod 2022

Sion Wyn
gan Sion Wyn
EF9A8AE6-A8A4-4CCB-88A1

Stondin 628-628

C3E8D16B-A3B3-4E18-8C7B

Dewch i weld be sy’n cael ei arddangos!

29A86B15-BDB3-42DB-89C3

Sialens Seiclo

C94083BD-562C-45A8-AB5C

Sioe Maes G yn y Pafiliwn Nos Lun 1af o Awst

Os ydych yn ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon, cofiwch alw heibio i stondin CFfI Ceredigion ar stondin 627-628.

Ond, be sy mlan yn ystod yr wythnos?

Dydd Llun 1af – 11 y.b. – Creu Penwast

2 y.p. – Cacennau Mirain Haf

Dydd Mawrth 2il – 2 y.p. – Arddangosfa Coginio Gareth Goedwig (FUW)

Dydd Mercher 3ydd – 2 y.p. – Sialens Sgiliau ar y Spot Mudiadau Ceredigion

Dydd Iau 4ydd – 1 y.p. – Creu Penwast

Dydd Gwener 5ed – 11 y.b. – Ysgyrthu Pren

5 y.p. – Tynnu Raffl

Dydd Sadwrn 6ed – 2 y.p. – Arddangosfa Gosod Blodau

Yn ogystal â hyn, gallwch gymryd rhan yn Sialens Seiclo’r Mudiad. Allwch chi guro’r amser cyflymaf erbyn diwedd yr wythnos?  Gallwch hefyd brynu raffl fawr er mwyn ennill gwobrau gwych!

Heno, Nos Lun y 1af o Awst, bydd aelodau CFfI Ceredigion yn camu ar lwyfan y Pafiliwn yn eu sioe Maes G. Mae yna dal rhai tocynnau ar gael, gallwch eu harchebu ar wefan yr Eisteddfod.

“Gwedd newydd ac annisgwyl ar hen chwedl Maes Gwyddno a’r cantref coll yng nghwmni CFfI Ceredigion.”

https://eisteddfod.cymru/2022-tocynnau-maes