Castell Aberteifi: prosiect Cynefin Ysgol Aberteifi

Cyfle i’r disgyblion ddysgu mwy am bwysigrwydd yr Arglwydd Rhys a’r Eisteddfod Gadeiriol gyntaf

gan Menna Davies

Fel rhan o brosiect ‘Cynefin y Cardi’ ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni, disgyblion Blwyddyn 5 cafodd y dasg o gyflwyno rhywfaint o’u hanes lleol drwy greu panel gomic.

I ddisgyblion Ysgol Gynradd Aberteifi roedd y dasg o ddewis hanesyn yn un rhwydd a phenderfynwyd ar hanes y castell. Cafwyd cyfle i ddysgu mwy am bwysigrwydd yr Arglwydd Rhys a’r Eisteddfod Gadeiriol gyntaf  yn 1176 ac i ddarganfod mwy am Miss Barbara Wood, y person olaf i fyw yn Nhŷ Castle Green.

Dyma brofiad arbennig i’r disgyblion i gael cyd-weithio gyda chwmni CISP Multimedia, o’r gwaith ymchwilio, cynllunio, dylunio i greu’r panel, rydym yn edrych ymlaen at weld gwaith gorffenedig ysgolion y sir ar faes yr Eisteddfod.