gan
Menna Davies
Fel rhan o brosiect ‘Cynefin y Cardi’ ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni, disgyblion Blwyddyn 5 cafodd y dasg o gyflwyno rhywfaint o’u hanes lleol drwy greu panel gomic.
I ddisgyblion Ysgol Gynradd Aberteifi roedd y dasg o ddewis hanesyn yn un rhwydd a phenderfynwyd ar hanes y castell. Cafwyd cyfle i ddysgu mwy am bwysigrwydd yr Arglwydd Rhys a’r Eisteddfod Gadeiriol gyntaf yn 1176 ac i ddarganfod mwy am Miss Barbara Wood, y person olaf i fyw yn Nhŷ Castle Green.
Dyma brofiad arbennig i’r disgyblion i gael cyd-weithio gyda chwmni CISP Multimedia, o’r gwaith ymchwilio, cynllunio, dylunio i greu’r panel, rydym yn edrych ymlaen at weld gwaith gorffenedig ysgolion y sir ar faes yr Eisteddfod.