Casglu barn ymwelwyr y gwefannau bro

Cewch gyfle i ennill taleb gwerth £40 i’w wario’n lleol wrth ateb holiadur Bro360

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Ydych chi wedi ymweld â gwefan fro… i ddarllen stori leol, neu hyd yn oed i gyfrannu eich stori eich hun?

Mae Bro360 eisiau clywed wrthych chi, i roi eich barn am unrhyw un o’r 8 gwefan fro sy’n bodoli yn Arfon a Cheredigion.

Llenwch yr holiadur byr heddiw.

Gallai eich sylwadau ein helpu i wella’r gwasanaeth i’r dyfodol, a datblygu pethau cyffrous er mwyn parhau i wneud gwahaniaeth yn lleol…

A gallai eich gwneud chi £40 yn gyfoethocach! Beth sydd ’na i’w golli (heblaw am 5 munud fach!)