Bwrsari newydd gwerth hyd at £2000 i ohebu ar straeon lleol

Cyfle gan Golwg i newyddiadurwyr profiadol a chyw-ohebwyr

Lowri Jones
gan Lowri Jones
jana-shnipelson-SRReffF4vFA-unsplashLlun gan Jana Shnipelson ar Unsplash

Mae Golwg yn cyhoeddi cyfleoedd bwrsari rhwng £500 a £2000 i unrhyw un sydd am ddatblygu eu sgiliau newyddiaduraeth ymchwiliadol dros gyfnod o 2 fis.

Byddwch yn gweithio ar newyddion lleol yn rhan o’r gwaith. Mae hwn yn gyfle i ohebwyr brwd fynd ar ôl y straeon yna sydd angen ymchwilio iddyn nhw. Y pethau sy’n digwydd dan y radar. Y materion sy’n bwysig i’r gymdeithas leol.

Mae’n gyfle gwych i leisiau newydd roi cynnig ar ohebu, ac i newyddiadurwyr profiadol gael cefnogaeth i fynd ar ôl y stori fawr yna.

Bydd modd creu straeon ar unrhyw gyfrwng digidol, a’u rhannu â’r gynulleidfa leol trwy’r gwefannau bro (Arfon a Cheredigion) a gwefan newyddion lleol golwg360.

Bydd hyfforddiant gan dîm profiadol Golwg yn rhan o’r rhaglen.

Croeso i newyddiadurwyr profiadol a chyw-ohebwyr ymgeisio.

Ebostiwch lowrijones@golwg.cymru i ymgeisio erbyn 26 Awst, gan esbonio pam yr hoffech fanteisio ar y cyfle.

Cefnogir y cyfle hwn gan Gronfa Newyddiaduraeth er Lles y Cyhoedd Cymru.