Busnesau Ceredigion: eisiau hyrwyddo i ymwelwyr yr Eisteddfod?

Cyfle arbennig i gael 3 hysbys am bris un yr haf yma

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae cyfle newydd i fusnesau Ceredigion gael tri hysbys am bris un yr haf yma, a chyrraedd ymwelwyr â’r Eisteddfod Genedlaethol mewn tair ffordd wahanol.

Hafan busnesau bach Cymru – Marchnad360 – sy’n cynnig y pecyn arbennig yma, a’r dyddiad cau ar gyfer manteisio arno yw 1 Gorffennaf 2022.

Mae pecyn ‘siopa lleol’ Marchnad360 yn cynnwys:

  • AR-LEIN: proffil llawn ar wefan Marchnad360 a’ch gwefan fro
  • MEWN PRINT: listing yn atodiad print y gwefannau bro (fydd yn mynd mas at bob carafan yn yr Eisteddfod + yn cael ei argraffu yn Golwg)
  • AR Y MAES: lle ar y map ‘siopa’n lleol’ mewn wal fawr ar faes yr Eisteddfod

Fel arfer, mae cael proffil llawn ar Marchnad360 yn costio £100 y flwyddyn i fusnes, ond mae’n cael ei gynnig am £50 eleni, gan ei fod yn ei flwyddyn gyntaf.

Ond i ddathlu ymweliad yr ŵyl, bydd busnesau Ceredigion yn cael cynnig y pecyn yma, sy’n cynnwys y cynigion ychwanegol, am yr un pris.

Dilynwch y camau yma i ymuno â Marchnad360 fel aelod llawn:

  1. Ewch i wefan y Farchnad a dewis Ychwanegu busnes.
  2. Os oes gennych gyfrif ar un o wefannau 360 yn barod, mewngofnodwch – neu dewiswch Ymuno i greu cyfrif newydd. Eich cyfrif personol yw hwn, felly defnyddiwch eich enw eich hun.
  3. Ymunwch fel aelod llawn (£50) i fanteisio ar y pecyn hwn.
  4. Os yw proffil eich busnes yn ymddangos ar y farchnad yn barod, bydd angen i chi ei hawlio. Porwch drwy fusnesau’r Farchnad a dewis hawlio’r busnes.
  5. Fel arall, ewch ati i greu proffil busnes. Cofiwch ychwanegu llun da o’ch cynnyrch neu fusnes (bydd hynny’n well na logo), a rhoi pin ar y map i ddangos eich union leoliad.
  6. Cyhoeddwch eich proffil a chadw’r newidiadau.

 

Cysylltwch â Lowri ar lowrijones@golwg.cymru os hoffech drafod ymhellach.