gan
Lowri Jones
Mae cyfle newydd i fusnesau Ceredigion gael tri hysbys am bris un yr haf yma, a chyrraedd ymwelwyr â’r Eisteddfod Genedlaethol mewn tair ffordd wahanol.
Hafan busnesau bach Cymru – Marchnad360 – sy’n cynnig y pecyn arbennig yma, a’r dyddiad cau ar gyfer manteisio arno yw 1 Gorffennaf 2022.
Mae pecyn ‘siopa lleol’ Marchnad360 yn cynnwys:
- AR-LEIN: proffil llawn ar wefan Marchnad360 a’ch gwefan fro
- MEWN PRINT: listing yn atodiad print y gwefannau bro (fydd yn mynd mas at bob carafan yn yr Eisteddfod + yn cael ei argraffu yn Golwg)
- AR Y MAES: lle ar y map ‘siopa’n lleol’ mewn wal fawr ar faes yr Eisteddfod
Fel arfer, mae cael proffil llawn ar Marchnad360 yn costio £100 y flwyddyn i fusnes, ond mae’n cael ei gynnig am £50 eleni, gan ei fod yn ei flwyddyn gyntaf.
Ond i ddathlu ymweliad yr ŵyl, bydd busnesau Ceredigion yn cael cynnig y pecyn yma, sy’n cynnwys y cynigion ychwanegol, am yr un pris.
Dilynwch y camau yma i ymuno â Marchnad360 fel aelod llawn:
- Ewch i wefan y Farchnad a dewis Ychwanegu busnes.
- Os oes gennych gyfrif ar un o wefannau 360 yn barod, mewngofnodwch – neu dewiswch Ymuno i greu cyfrif newydd. Eich cyfrif personol yw hwn, felly defnyddiwch eich enw eich hun.
- Ymunwch fel aelod llawn (£50) i fanteisio ar y pecyn hwn.
- Os yw proffil eich busnes yn ymddangos ar y farchnad yn barod, bydd angen i chi ei hawlio. Porwch drwy fusnesau’r Farchnad a dewis hawlio’r busnes.
- Fel arall, ewch ati i greu proffil busnes. Cofiwch ychwanegu llun da o’ch cynnyrch neu fusnes (bydd hynny’n well na logo), a rhoi pin ar y map i ddangos eich union leoliad.
- Cyhoeddwch eich proffil a chadw’r newidiadau.
Cysylltwch â Lowri ar lowrijones@golwg.cymru os hoffech drafod ymhellach.