gan
Lowri Jones
Mae cyfle i fusnesau bach gael tri hysbys am bris un y ’Dolig yma, a chyrraedd cwsmeriaid newydd sy’n awyddus i gefnogi busnesau lleol.
Hafan busnesau bach Cymru – Marchnad360 – sy’n cynnig y pecyn arbennig yma, a’r dyddiad cau ar gyfer manteisio arno yw 25 Tachwedd 2022.
Trwy becyn ‘siopa lleol’ Marchnad360 bydd eich cwmni yn cyrraedd:
- POBOL LEOL: trwy gael proffil llawn ar eich gwefan fro
- DARLLENWYR GOLWG: trwy gael listing yn atodiad print y gwefannau bro, fydd yn rhan o rifyn ’Dolig cylchgrawn Golwg
- SIOPWYR CYMRU GYFAN: trwy gael sylw arbennig i’ch cynnyrch ar golwg360 a Marchnad360 ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach
Fel arfer, mae cael proffil llawn ar Marchnad360 yn costio £100 y flwyddyn i fusnes, ond mae’n cael ei gynnig am £50 eleni, gan ei fod yn ei flwyddyn gyntaf.
Dilynwch y camau yma i ymuno â Marchnad360 fel aelod llawn:
- Ewch i wefan y Farchnad a dewis Ychwanegu busnes.
- Os oes gennych gyfrif ar un o wefannau 360 yn barod, mewngofnodwch – neu dewiswch Ymuno i greu cyfrif newydd. Eich cyfrif personol yw hwn, felly defnyddiwch eich enw eich hun.
- Ymunwch fel aelod llawn (£50) i fanteisio ar y pecyn hwn.
- Os yw proffil eich busnes yn ymddangos ar y farchnad yn barod, bydd angen i chi ei hawlio. Porwch drwy fusnesau’r Farchnad a dewis hawlio’r busnes.
- Fel arall, ewch ati i greu proffil busnes. Cofiwch ychwanegu llun da o’ch cynnyrch neu fusnes (bydd hynny’n well na logo), a rhoi pin ar y map i ddangos eich union leoliad.
- Cyhoeddwch eich proffil a chadw’r newidiadau.
Cysylltwch â Lowri ar lowrijones@golwg.cymru os hoffech drafod ymhellach.