Busnesa gyda Hannah

Mae ymwneud â Caernarfon360 wedi rhoi mwy i Hannah Hughes na phrofiad a hyder yn unig

Lowri Jones
gan Lowri Jones
77D794D0-56AC-4AA6-946C-2

Hannah, ar y dde, gyda’i chyd-chwaraewyr i Glwb Rygbi Caernarfon

Mae ymwneud â Caernarfon360 wedi rhoi mwy i Hannah Hughes na phrofiad a hyder yn unig. Mae wedi cael te pnawn am ddim gan un o fusnesau newydd ‘dre!

Er mai Hannah sy’n arfer gwneud yr holi, fe aethon ni i’w holi hi am y profiad o fod yn ohebydd bro…

Pa fath o straeon wyt ti’n mwynhau eu cyhoeddi?

Straeon am ddigwyddiadau, am y profiad o ymweld â busnes, ac am bobol yn bennaf. Mae dathlu cymeriadau ac arwyr distaw yn bwysig i mi, ac mae hi’n ddiddorol clywed hanesion pobol o’u profiadau nhw’n gwirfoddoli neu’n gweithio oriau diddiwedd i wireddu breuddwyd.

Pam dy fod di’n mwynhau rhannu straeon ar Caernarfon360?

Dwi yn berson pobol ac yn ddiweddar wedi dechrau gweithio yn y maes marchnata, ac roedd hwn yn gyfle i mi allu plethu fy sgiliau a diddordebau gan roi rhywbeth positif yn ôl i’r fro. Mae pawb efo stori ac mae pawb ar siwrne, a mwya’ yn y byd ydan ni’n rhannu gorau yn byd er mwyn ysbrydoli eraill.

Sut ymateb ti’n ei gael gan y busnesau?

Rydan ni’n trio codi ymwybyddiaeth ein bod yn grŵp gwirfoddol sydd eisiau cefnogi a hyrwyddo busnesau a phobol yn ein bro, felly gobeithio gall hyn mond fod yn bositif.

Mae busnesau wedi cychwyn ein tagio ni ar y cyfryngau bellach, ac mi ges i gynnig i ymweld â busnes newydd Y Crochan i flasu eu te prynhawn am ddim i hyrwyddo eu cynnyrch a’u busnes!

Sut beth oedd y te prynhawn? Bydd yn onest!

Roedd yn brofiad bythgofiadwy cael cacennau anhygoel i gyd am ddim! Profiad bythgofiadwy, ac roeddwn yn gadael yn teimlo môr llawn ond hefyd wedi fy ysbrydoli o glywed hanes y perchenogion, ac eisiau sicrhau bod pobol yn gwybod am y gwaith hynod wych mae’r ddau wedi’i wneud i’r gymuned.

Oes gen ti air o gyngor i unrhyw un arall sy’n falch o’u bro? 

Ewch amdani i gyhoeddi ar eich gwefan fro. Mae’n safle saff a chroesawgar ac yn ffordd syml o wneud gwahaniaeth positif i’ch cymuned, codi ymwybyddiaeth a rhannu straeon mewn llawer o ffyrdd difyr.

Dwi ddim yn un sydd yn mwynhau ysgrifennu straeon erioed, ond mae gwirfoddoli gyda Caernarfon360 wedi fy annog i roi cynnig arni, datblygu sgiliau a chyfarfod efo pobol newydd, a dwi’n mwynhau’r profiad. Ac mae croeso i unrhyw un ymuno â’n tîm!