Buddugoluaeth i Aberaeron

Tîm rygbi saith bob ochr Aberaeron yn becampwyr ym Machynlleth

Haydn Lewis
gan Haydn Lewis

Llongyfarchiadau i dîm rygbi saith bob ochr Aberaeron am ennill cystadleuaeth Sion Wyn ym Machynlleth y Sadwrn diwethaf, gan guro Aberystwyth 26-5 yn y ffeinal.

Cafodd Dafydd Llewelyn o Aberaeron ei ddewis yn chwaraewr gorau’r gystadleuaeth am yr ail dro yn olynol.

Gwellhad buam i Osian ‘Sychpant’ Davies wedi iddo dorri ei fraich ym munudau cynta’r gystadleuaeth.