Sioe. Steddfod. Pencampwriaeth. Gŵyl…
Os oes digwyddiad mlaen yn eich ardal chi, rhowch gynnig ar ddod â’r cyfan yn fyw mewn blog!
Mewngofnodi > Creu > Blog byw
Ambell esiampl o flog byw
- Diwrnod o gystadlu mewn escape room
- Llwyddiannau lleol mewn gŵyl genedlaethol
- Gŵyl leol yn llawn busnesau lleol
- Casglu gwybodaeth benodol neu holi cwestiwn
Eisteddfod Ceredigion 2022: pwy yw’r cyn-enillwyr lleol?
Cyfle i gasglu enwau’r Cardis sydd wedi ennill prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol
- Noson y cownt mewn etholiad
Etholiad 2019 – Blog byw o’r cownt yn Arfon
Hywel Williams yn cadw Arfon ac yn cynyddu ei fwyafrif Hywel Williams (Plaid Cymru) – 13,134 …
- Diwrnod mawr o gystadlu
- Sioe amaethyddol
Cynghorion handi
- Mae blog byw wedi’i greu i gofnodi digwyddiad dros un diwrnod. Os yw’r digwyddiad yn mestyn dros ddiwrnodau, mae’n well dechrau blog byw newydd fory. (Bydd yn gyfle i greu pennawd a llun newydd, tynnu sylw o’r newydd, a denu mwy i glicio arno.)
- Mae modd i bawb sy’n aelod o’ch gwefan gyfrannu diweddariadau’n syth i’ch blog. Dim ond angen Ymuno / Mewngofnodi i’w cyfrif yn gyntaf.
- Mae’n gyfrwng cymdeithasol. Gorau po fwyaf o bobol sy’n cymryd rhan! Un ffordd o ddenu ymateb yw holi cwestiynau yn y blog… “pa un o’r defaid yma sy’n haeddu ennill eu dosbarth yn y sioe?”
- Does dim angen sticio at un cyfrwng. Fyddai fideo’n gweithio orau i gofnodi’r cystadlu? Yw hi’n haws recordio clip sain wrth gyfweld enillydd? Oes pobol yn y digwyddiad sydd eisoes yn tynnu llwyth o luniau? Lan â’r cyfan i’r blog!
- Rhannwch y blog ar gyfryngau cymdeithasol, yn enwedig grwpiau Facebook lleol, a thagio pawb sy’n ymwneud â’r digwyddiad. Gallwch rannu diweddiadau unigol hefyd, trwy’r eicons Facebook a Twitter.
- Un blog byw sy’n gallu bod yn ‘fyw’ ar wefan fro ar y tro.
- Ar ôl 2 awr heb ddiweddariadau, bydd blog byw yn ‘dod i ben’ yn awtomatig. Bydd modd i’ch Golygyddion lleol neu staff Golwg ail-ddechrau blog byw (cysylltwch: cymorth@golwg.cymru)
- Os ydych am gofnodi darn barn neu brofiad personol, nid ‘blog byw’ sydd ei angen arnoch. Dewiswch Creu > Stori.
- Joiwch, ac anogwch bobol eraill sydd yn y digwyddiad i fwynhau cyfrannu at y blog.
Mae’n gyfrwng byw i bawb!