Blas o’r bröydd cyn y ’Dolig

Rhai o’r straeon Nadoligaidd sydd wedi’u cyhoeddi gan bobol leol ar gwefannau bro

Lowri Jones
gan Lowri Jones

“Jaman i chi os nad oeddech chi yno!”

Peth ofnadwy yw colli allan! Ond, dim pawb sy’n llwyddo i fynd i’r holl gyngherddau a gwasanaethau sydd ymlaen yn eu milltir sgwâr… a dydy tywydd rhewllyd a salwch y gaeaf hwn heb helpu.

Ond, diolch i lu o ohebwyr bro brwd, mae fideos a lluniau o berfformiadau o bob cwr i’w gweld ar y gwefannau bro.

Ewch i Caernarfon360 i wylio perfformiad Ysgol Gynradd y Gelli yn Theatr Seilo, sgroliwch flog byw Clonc360 i ddal naws Noson o Garolau Capel Brondeifi, ac ewch i BroAber360 i wylio Mair a’r bugeiliaid yn clocsio yn y sêt fawr!

 

5 anrheg delfrydol i ddysgwyr

Mae hi’n job chwilio am yr anrheg Nadolig perffaith… i unrhyw un! Ond beth am ddysgwyr – oes rhai pethau allan yna fyddai’n addas?

Y tiwtor Cymraeg Nia Llywelyn sy’n rhannu 5 syniad am anrhegion delfrydol i ddysgwyr – a mygiau ymarfer sy’n cyrraedd y brig iddi hi.

Felly os mai munud olaf fyddwch chi’n siopa eleni, ewch draw i Aeron360 i gael syniadau ar gyfer anrhegion i ddysgwyr, ac ewch i golwg360 i weld 5 anrheg ‘Dolig i blant fydd yn para blwyddyn gron!

 

Sosej rôls Nadoligaidd!

Mae pobol wedi dechrau rhannu eu hoff ryseitiau ar Caron360, a’r cyntaf yw Elen James.

Yw ei rysáit ar gyfer rholiau selsig a llugaeron yn ddigon i’ch ysbrydoli i roi twist bach newydd ar hen glasur y Nadolig yma?

 

Nadolig llawen i holl ddarllenwyr y gwefannau bro!