Beti Grwca: Prosiect Cynefin Ysgol Cei Newydd

Hanes Beti Grwca, hen wraig oedd yn byw mewn bwthyn bach ger Cei Newydd.

gan Beca Lewis

Fel rhan o brosiect Cynefin y Cardi, bu disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn gweithio’n ddiwyd yn creu comig i adrodd hanes Beti Grwca.

Mae’r disgyblion wedi mwynhau’r prosiect ac fe ddyluniwyd gwaith arbennig.

Diolch yn fawr iawn i Beth a chriw CISP Multimedia am gydweithio gyda’r dosbarth er mwyn creu’r hysbysfwrdd.

Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwaith gorffenedig ar faes yr Eisteddfod ym mis Awst.

Mae’r disgyblion wedi creu clip fideo byr i gyflwyno ychydig o hanes Beti Grwca, hen wraig oedd yn byw mewn bwthyn bach ger Cei Newydd.