Beirdd ein bro: prosiect Cynefin Ysgol Talgarreg

Ysgol Talgarreg yn creu tudalen comig arbennig

gan Bethan Morgan-Jenkins

Fel rhan o brosiect ‘Cynefin y Cardi’ ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron eleni, bu disgyblion Cyfnod Allweddol 2 Ysgol Talgarreg yn creu stribed comig i gyflwyno rhywfaint o’u hanes lleol.

‘Beirdd ein Bro’ oedd y thema i ddisgyblion brwdfrydig Ysgol Talgarreg.  Mae gan y pentref hanes a thraddodiad barddol godidog a nifer o feirdd llwyddiannus yn tarddu o’r filltir sgwâr.  Yn dilyn gweithdy cychwynnol gyda chwmni Cisp Multimedia, aeth pawb ati i gynllunio a dylunio’r panel a phenderfynu ar ein capsiynau ar gyfer pob darlun.

Y cam cyntaf felly oedd gwneud ychydig o waith ymchwil yn llyfr ‘Talgarreg’ gan E.Lloyd Jones a hefyd drwy fynd ar daith o amgylch y pentref.  A wyddoch chi fod nifer o brifeirdd yn gysylltiedig â’r filltir sgwâr?  Dyna felly oedd ein man cychwyn ar gyfer y prosiect.  Aethon ni am dro i’r ‘Bwthyn’ sef cartref y prifardd Dewi Emrys cyn iddo farw.  Wrth bysgota ar lan yr afon Clettwr, cafodd ei ysbrydoli i gyfansoddi’r englyn i’r ‘Gorwel’ ac mae’r llinell ‘campwaith dewin hynod’ yn ymddangos o fewn yr haul ar ein panel.

Ar ôl ymweld â’r bwthyn, rhaid oedd croesi’r bont dros yr afon Clettwr i weld y Plas, cyn-gartref enillydd y ‘Dwbl Dwbl’ sef Donald Evans.  Yna, ar ôl dychwelyd i’r ysgol, aethon ni ati i ddysgu mwy am hanes Sarnicol (Thomas Jacob Thomas). Ar logo’r ysgol mae llun o’r Garreg Wen a saif ar y groesffordd ar bwys Alltmaen.  Ysgrifennodd Sarnicol gerdd enwog am y Garreg Wen a’r ddwy  linell olaf i’r gerdd yw teitl y murlun:

A dof yn ôl i’r dawel fan

O bedwar ban y byd.

A phwy all anghofio am un o gymeriadau mwyaf cofiadwy yr ardal sef Eirwyn Pontsian.  Yn dilyn cwblhau’r prosiect, aeth yr Adran Iau lawr am bryd o fwyd yn Nhafarn Glanyrafon a chael llun i’w gofio o flaen darlun enfawr o’r diddanwr Eirwyn Pontsian.  ‘Mmm!  Hyfryd iawn!’

Mae pawb wedi mwynhau’r profiad yn fawr iawn ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld y panel gorffenedig ar faes yr Eisteddfod ym mis Awst.  Cofiwch alw draw hefyd i’r Tŷ Gwerin ar ddydd Iau, Awst 4ydd i weld rhai o ddisgyblion Ysgol Talgarreg yn perfformio yn sioe ‘Ysbryd Eirwyn Pontsian’.

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)