Y Barcud a Caron360 yn awyddus i gydweithio er mwy cryfhau’r ddau gyfrwng

Y ddau fudiad o ardal Tregaron yn cryfhau’r cyswllt yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Screenshot-2022-08-11-at-15.15.22

Dylan Lewis, Cadeirydd Clonc a Clonc360; Menna Baines, Goriad a BangorFelin360; Enfys Hatcher Davies, un o olygyddion Caron360 a John Meredith, Cadeirydd Papur Bro Barcud yn sgwrsio ar stondin Golwg yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mewn sgwrs fyw ar stondin Golwg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn trafod papurau a gwefannau bro – cystadlu neu gryfhau? dangosodd y ddau fudiad sy’n cynrychioli ardal Tregaron eu hawydd i gydweithio mwy, er mwyn ehangu’r gwasanaethau straeon lleol.

Roedd y panel fu’n sgwrsio yn fyw ar stondin Golwg yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Sadwrn 30 Gorffennaf yn cynnwys cyfranogwyr a golygyddion profiadol – John Meredith, Cadeirydd Papur Bro Barcud; Enfys Hatcher Davies, un o olygyddion Caron360; Menna Baines, Goriad a BangorFelin360; a Dylan Lewis, Cadeirydd Clonc a Clonc360.

Cafodd llu o syniadau a chynghorion eu rhannu – gallwch wylio fideo o’r sgwrs i glywed y cyfan, neu ddarllen ymlaen i gael crynodeb:

Pam sefydlu gwefan fro?

“O ran ardaloedd sydd heb wefan fro, ma’ rhaid symud ymlaen pa bynnag ffordd ma’ hynny yn mynd i ddigwydd, oherwydd mae patrymau darllen pobl yn newid. Prin iawn yw’r bobl sydd yma heddi sy’n prynu’r papur dyddiol. Mae pawb mwy neu lai yn cael eu gwybodaeth oddi ar eu teclynnau, ac os nad ydym ni yn sicrhau bod ein newyddion ni yn ein cyrraedd ni yn y Gymraeg ar ein teclynnau, fyddwn ni ar ei hol hi!” eglurodd Dylan Lewis, golygydd papur bro Clonc a gwefan fro Clonc360.

Beth sy’n gwneud gwefan fro yn wahanol i bapur bro?

“Mae’r wefan yn medru cyhoeddi beth sy’n digwydd heddi”, lle mae’r “papur bro yn draddodiadol yn crynhoi digwyddiadau a hanesion lleol a chyfarchion ar ddiwedd mis, ac yn aml iawn mae’r newyddion hen. Er enghraifft, ry’ ni wastad wedi gweld hi’n anodd cyhoeddi canlyniadau chwaraeon yn y papur bro achos erbyn i’r papur bro gael ei gyhoeddi mae ’na gemau newydd wedi bod.”

Eglurodd Enfys Hatcher, un o olygyddion Caron360 bod gwefan fro yn cynnig math gwahanol o ohebu, “mater o funude sydd ishe a chi wedi uwchlwytho stori glatsh!”

“Mae mor syml â gweld rhywbeth, tynnu llun ohono a’i gyhoeddi.”

Mae’r gwefan fro hefyd yn galluogi gwahanol bobl i ohebu ar yr un stori drwy greu blog byw. Mae’n gyfrwng sy’n “gweithio yn dda gyda digwyddiad, er enghraifft nelon ni flog adeg Rali’r Ffermwyr Ifanc,” gan sicrhau diweddariadau a chanlyniadau ar y funud i wylwyr adre o’r digwyddiad.

Yn ychwanegol, dywedodd Menna Baines, golygydd Goriad bod papurau bro yn dueddol o gymryd mis neu ddau o wyliau ym mis Gorffennaf ac Awst, sy’n golygu bod newyddion yn ystod yr haf wedi dyddio erbyn rhifyn mis Medi, lle mae “gwefannau bro yn parhau trwy’r flwyddyn.” Felly yn hytrach nag aros tan rifyn mis Medi i gyflwyno stori, “cer i gyhoeddi’r stori dy hunan ar y wefan fro” ategodd Enfys.

Wrth gael gwefan fro, mae modd hefyd addasu ac ategu cynnwys at stori.

“I bawb sy’n gweithio ar bapurau bro, chi’n gallu ypseto pobl… chi’n gallu gadel llun mas, chi’n cael rhyw ganlyniad yn anghywir neu dyw’r sgôr ddim yn iawn, ac wrth gwrs unwaith mae e ar ddu a gwyn ac yn y siope na’i diwedd hi, mae’n Amen. Ond os oes gwefan fro gyda chi, mae’n wych medru cywiro rhywbeth chi di cael yn anghywir, neu gyhoeddi a diweddaru,” esboniodd Dylan.

Beth sy’n debyg rhwng y ddau gyfrwng?

Mae’n gwbl amlwg o’r sgwrs mai allwedd y ddau gyfrwng yw pobol. Pobol leol sy’n creu’r straeon lleol ac sy’n eu cyhoeddi i’r ddau gyfrwng –  ac mae’r rhain yn “straeon y byddai’r un newyddiadurwr wedi gweld na’u clywed” eglurodd Lowri Jones, Cydlynydd Bro360.

Elfen debyg arall yw’r broses olygu. Mae straeon y wefan fro fel y papur bro yn cael eu golygu gan dîm o olygyddion cyn cael eu cyhoeddi. Mae’r elfen olygyddol hwn wedi profi yn ganolog ar draws pob gwefan “wrth roi hyder i bobl gyfrannu” meddai Lowri.

Felly sut gall gwefan fro a phapur bro gydweithio?

Eglurodd John Meredith, Cadeirydd Barcud bod gan “do hŷn papur bro’r Barcud gyfle i gydweithio gyda tho iau Caron360 er mwyn cryfhau ei gilydd” a hynny drwy rannu cynnwys ar draws y ddau gyfrwng – i raddau helaeth gallwn ystyried bod gennym gyfle i gyrraedd dwy gynulleidfa wahanol trwy’r ddau gyfrwng.

“Er enghraifft os yw Jonny bach yn cael rhyw anrhydedd ac mae’n cael ei gyhoeddi ar y wefan, mae pobl yn dal yn lico ei gal e mewn print ar ddiwedd y mis i’w gadw.”

Fel papur a gwefan fro sydd eisoes yn cydweithio, mae Clonc a Clonc360 yn manteisio ar y wefan fro er mwyn cyhoeddi crynodeb neu flas ar stori, cyn annog y darllenwr i’w ddarllen yn llawn drwy brynu’r papur bro.

“Mae Gwyneth un o’n golygyddion ni sy’n byw yn Llanybydder wedi bod yn cyhoeddi hanesion Llanybydder, ac ar ddau achlysur drwy roi crynodeb o’r stori ar y wefan, mae Clonc wedi gwerthu allan yn llwyr yn siop Llanybydder.”

Mae BangorFelin360 hefyd wedi mabwysiadu techneg debyg o roi fersiwn byrrach ‘llun a chapsiwn’ o stori oddi ar bapur bro Goriad ar y wefan fro.

Syniadau ar gyfer cydweithio

Mae Golwg wedi defnyddio profiadau prosiect peilot Bro360 i gynhyrchu fideo fer, sy’n cynnig 5 ffordd y gall gwefannau a phapurau bro gydweithio er mwyn cryfhau ei gilydd.

Ewch i wylio’r fideo – mae’n cynnwys syniadau ar sut i wneud straeon mewn ffyrdd gwahanol, defnyddio’r cyfrwng print i hyrwyddo straeon y wefan a’r ffordd arall rownd, a denu cyfranogwyr newydd.

Eisiau gwefan fro yn eich ardal chi?

Ydych chi’n ymwneud â phapur bro sydd eisiau cydweithio’n agosach â gwefan fro eich ardal chi?

Ydych chi’n byw mewn ardal sydd heb wefan fro eto, ond eisiau clywed mwy am fanteision y cyfrwng ar-lein?

Gwyliwch y sgwrs gyfan o’r Eisteddfod i glywed cyngor y panel, a chysylltwch â lowrijones@golwg.cymru i drafod ymhellach.