Ysgolion Arfon yn canu dros Gymru!

Disgyblion yn canu cyn y gêm fawr.

Guto Jones
gan Guto Jones

Mae ysgolion Arfon wedi bod yn brysur yn canu cyn y gêm fawr yn erbyn Denmarc yfory.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn annog ysgolion i greu fideos o ddisgyblion yn canu Hen Wlad Fy Nhadau. Y nod yw bod yr ysgolion yn rhannu eu fideos, er mwyn dangos cefnogaeth i’r tîm cenedlaethol. Mae’r gymdeithas hefyd yn gobeithio creu un fideo arbennig, gan ddefnyddio clipiau o fideos y disgyblion, er mwyn ei ddangos i’r chwaraewyr cyn y gêm.

Dyma fideos o ddisgyblion Arfon yn canu’n angerddol, sydd wedi cael eu rhannu ar wefannau Bro360. Dilynwch y linc er mwyn gweld môr o grysau cochion, a’r plant yn mynd amdani!

Ysgol Dolbadarn

Ysgol Waunfawr

Ysgol Gymuned Penisarwaun

Ysgol Bro Llifon

Ysgol Brynaerau

Ysgol Baladeulyn

Gobeithio bydd pawb yn canu cystal â’r plant yn ystod y gêm. Cmon Cymru!