Mae ysgolion Arfon wedi bod yn brysur yn canu cyn y gêm fawr yn erbyn Denmarc yfory.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn annog ysgolion i greu fideos o ddisgyblion yn canu Hen Wlad Fy Nhadau. Y nod yw bod yr ysgolion yn rhannu eu fideos, er mwyn dangos cefnogaeth i’r tîm cenedlaethol. Mae’r gymdeithas hefyd yn gobeithio creu un fideo arbennig, gan ddefnyddio clipiau o fideos y disgyblion, er mwyn ei ddangos i’r chwaraewyr cyn y gêm.
Dyma fideos o ddisgyblion Arfon yn canu’n angerddol, sydd wedi cael eu rhannu ar wefannau Bro360. Dilynwch y linc er mwyn gweld môr o grysau cochion, a’r plant yn mynd amdani!
Gobeithio bydd pawb yn canu cystal â’r plant yn ystod y gêm. Cmon Cymru!