Tips cyfryngau cymdeithasol

Eisiau gwella eich sgiliau ar y cyfryngau cymdeithasol? Darllenwch ymlaen…

Daniel Johnson
gan Daniel Johnson

Pedair biliwn o bobol – dyna faint sydd yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae’n ffigwr bron yn ‘rhy fawr’, anodd i’w ddychmygu, anodd i’w ddal yn eich meddwl. Bron i 60% o boblogaeth y byd.

Mae’r cyfryngau yma wedi llwyddo i gysylltu’r byd mewn ffordd sydd heb ei weld ers, wel… erioed o bosib.

Ac er bod mwy a mwy o bobol ymuno â’r platfformau newydd, chwyldroadol yma (mae 8 cyfrif Facebook newydd yn cael eu creu pob eiliad), mae’n bosib gwneud impact drwy eich defnydd o’r cyfryngau.

Dyma rai syniadau ar sut y gallwch wneud defnydd da o gyfryngau cymdeithasol:

  • Cofiwch deilwra, ac addaswch eich cynnwys i’r cyfrwng, a’r gynulleidfa berthnasol.
  • Gallwch ddileu’r URL os yn rhannu linc ar Facebook – mae’n edrych yn daclusach.
  • Gwahoddwch! Un o’r ffyrdd gorau o dyfu eich proffil ydy i wahodd eich ffrindiau i gyd i hoffi’r dudalen – a mae’n hawdd gwneud.
  • Ystyriwch ddarlledu – mae ystadegau’n dangos bod mwy a mwy yn gwylio clipiau fideo, ac mae cyfleusterau megis Facebook Live yn gwneud darlledu’n haws nag erioed.
  • Mae’r algorithms yn gwobrwyo pawb sy’n cael mwy o ymateb. ‘Ymgysylltu’ yw popeth. Holwch gwestiynau, defnyddiwch polls insta ac ati i ddenu barn a sylwadau gan ddilynwyr.
  • Dilwch gyngor y platfform – os yw facebook yn dweud bod fideos 3 munud yn cael cyrhaeddiad gwell, peidiwch rhannu fideo 10 munud o hyd!
  • Chwaraewch o gwmpas – byddwch yn darganfod opsiynau newydd drwy dreulio rhai munudau’n gweld pa fotymau sy’n gwneud beth.

Am fwy o dips ar sut i wella eich sgiliau ar y cyfryngau cymdeithasol, gallwch wylio sesiwn ’30 tip mewn 60 munud’ gan ysgogwyr Bro360, Daniel Johnson a Guto Jones fan hyn:

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)