Stafell Jengyd, gigs artistiaid lleol, helfeydd trysor a thrysorau go iawn…

Cymunedau’n bwrw ati i ailgynnau diwylliant a dod â phobol ynghyd trwy drefnu digwyddiadau lleol-iawn Gŵyl Bro

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Bydd dros 20 o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal y penwythnos yma yn rhan o Gŵyl Bro.

Er bod cymaint yn poeni am fydd ein cymdeithasau a’n digwyddiadau lleol yn ailddechrau yr hydref hwn, mae gan sawl cymuned lygedyn o obaith.

Mae pobol leol wedi gweld cyfle i drefnu digwyddiad (bach neu fawr) i ddod â phobol ynghyd a dathlu’r filltir sgwâr.

Mae Gŵyl Bro wedi sbarduno syniadau arbennig am weithgareddau, gyda rhai trefnwyr yn cyfaddef bod yr ŵyl yn gyfle iddynt arbrofi a chreu gweithgareddau newydd allai ddod yn rhan o galendr blynyddol eu cymunedau.

Mae rhywbeth at ddant pawb… Os ydych chi wrth eich bod yn ceisio dianc o ‘escape rooms’, mae cyfle i wneud hynny gyda stafell Jengyd newydd sbon yn Llanddewi Brefi. Bydd artistiaid lleol yn perfformio am y tro cyntaf mewn 18 mis yn Gig Noson Ogwen ym Methesda. Bydd gŵyl o fewn gŵyl mlaen yn y Felinheli – gyda sesiynau barddoniaeth, gweithdy tynnu lluniau, stondinau crefftau a cherddoriaeth ar lan y Fenai.

Os mai trysorau yw eich peth chi, bydd pedair helfa drysor i’ch diddanu yng Ngheredigion… tra bydd cyfle i weld trysorau ‘go iawn’ sydd newydd ddod i’r fei yn Ninas Dinlle, gyda diwrnod agored archaeoleg Gwynedd.

Dyma restr o’r digwyddiadau fydd mlaen yn rhan o’r Ŵyl. Ewch i’r calendr am ragor o wybodaeth, ac i gofrestru unrhyw ddigwyddiadau sy’n lleol i chi.

Cymunedau Gwynedd

Cymunedau Ceredigion

Mae Bro360 yn hynod o falch bod pobol wedi bwrw ati i ddefnyddio Gŵyl Bro fel cyfle i gamu mlaen o Covid.

Mae creu cyfleoedd i ddod at ein gilydd yn bwysicach nag erioed, nid yn unig i gynnal diwylliant, ond i gynnal cwmnïaeth yn y cyfnod yma, a’n gobaith yw y bydd Gŵyl Bro yn rhoi’r hyder i drefnwyr a chymunedau barhau i gynnal pethau’n ddiogel.

Cofiwch ymweld â’r gwefan fro a gwefan Bro360.cymru dros y penwythnos – nid yn unig i wylio, darllen a gwrando ar straeon o’r digwyddiadau yma, ond i greu a darlledu eich hunan. Straeon lleol gan bobol leol yw’r gwefannau bro, ac mae cyfle i bawb rannu be sy mlaen yn eich bro.