Oni bai fod yna ryw gynhenu gwyllt (a hynny ar Zoom) pethe digon tawedog, di-sôn amdanynt yw cynghorau bro. Sy’n beth od. Achos ma’ nhw ym mhob man. Yn rhan annatod o bob cymdogaeth. Yn gyrff mor gyhoeddus. Ac eto, mor (wel) breifet. Mor ddiwedws. Mor anweledig.
Pe bai ‘Fy Nghyngor Bro’ yn destun arbenigol ar gyfres nesa Mastermind Cymru, faint ohonom fydde’n gallu rhoi ateb i’r cwestiwn ‘Sawl cynghorydd sydd ar y cyngor’? Heb sôn am eu henwi un ac oll. A beth tybed fydde’n hymateb se Betsan Powys yn gofyn ‘Beth ma’ nhw’n ’neud’?
Pe bai’r cwestiwn hwnnw’n cael ei holi dros beint yn y dafarn yr ateb ffwrdd-a-hi fydde ‘Dim’ (a llond bar o wherthin wrth ei gwt).
Ond pe bai rhywun yn holi’r cwestiwn mewn difri – gan ddisgwyl ateb mewn difri – tybed beth fydde ’da ni i gynnig?
Y cwestiwn sy’n codi wrth drafod dyfodol cymdeithas
Drwy gyfnod covid, ma’r union gwestiwn ’na wedi codi droeon a thro. Ma’ Radio Beca, ar y cyd a Bro360, wedi bod yn cynnal sgyrsie Zoom mewn cymdogaethau ar hyd a lled tair sir y gorllewin. Dan y pennawd ‘Prosiect Fory’ ma’ bobol wedi bod yn trafod pa fath o gymdeithas y’n ni am fyw ynddi ar ol yr argyfwng.
Wrth fynd i’r afael a’r cwestiwn hwnnw, yng nghrynswth y sgyrsie llawr gwlad hyn mi fydd rywun yn siwr o weud rhywbeth yn debyg i ‘Ond beth am y Cyngor Bro?’.
A wedyn fydd hi gered – y crafu pen parthed nid yn unig beth ma’ nhw’n neud ond hefyd be sda nhw’r gallu i neud. Beth – heblaw lampe stryd a tai bach a’r arosfan bws sy’ ’da nhw i drafod?
Os bydd cynghorydd bro yn rhan o’r sgwrs mi fydd yn siwr o nodi’r gwaith o styried ceisiadau cynllunio. Ac mi fydd rhywun yn siwr o ategu ‘Ie. Ond dim ond eu trafod. Sda chi ddim hawl ’neud dim. Mond pasio barn.’
A dyna ni nôl yn y dafarn unwaith eto a’r syniad cyffredinol ma’ rhyw siop siarad fach yw’r cyngor bro. Ma’ dyna’i gwta hyd a’i damed led. Rhyw gi anwes sy’ prin yn cofio siwt i gyfarth heb son am gnoi.
Cyngor Bro yn gweithredu’n wahanol
Ma’ sgyrsie Zoom Prosiect Fory wedi’u cynnal yn rhannau o’r gogledd hefyd.
Yn y sesiwn a gynhaliwyd yn Nyffryn Ogwen daeth darlun go wahanol o’r cyngor bro i’r amlwg. Yn y fan honno, ma’ tri chyngor bro wedi dod ynghyd, ryw 7 mlynedd nol, i greu partneriaeth sydd bellach yn gweddnewid economi hen fro’r llechi gynt.
Y cam allweddol oedd crynhoi’r swm cymharol fach o arian oedd gan pob cyngor unigol ynghyd i greu cronfa oedd yn ddigon iddyn nhw allu dechre gwneud gwahaniaeth. O’r pwynt hwn ymlaen, nid siop siarad (siop achwyn ambiti pethe, gan fwya) oedd y cyngor bro ond siop prynu a gwerthu a gwneud pethe (yn llythrennol). A thrwy gyfnod y pandemig mae’r meddylfryd ‘ffindo a gweithredu’n hatebion y’n hunen’ wedi mynd o nerth i nerth.
Sdim raid i chi ‘nghredu i. Ewch ar eu gwefan i weld y syniadau a’r brwdfrydedd a’r ffyniant dros eich hunan.
Eu potensial, go iawn?
Nôl yn y gorllewin, ma’r awydd i gwestiynu hen statws ‘siop siarad’ y cyngor bro wedi dechre newid ’fyd. Mewn mwy a mwy o sgyrise Prosiect Fory ma mwy a mwy o bobl wedi dechre meddwl o ddifri am botensial eu cyngor bro – eu potensial i wneud gwahaniaeth go iawn.
Ma’ dipyn o son am ‘annibyniaeth’ yn yr awyr y dyddie hyn. Ond tybed nad y ffordd i’w wireddu yw dilyn cyngor yr hen ffarmwr i’w was ifanc, gynt a dechre ‘wrth y’n tra’d’.
Bydd Euros Lewis (Radio Beca / Prosiect Fory) yn cymryd rhan yng Nghynhadledd Undydd Academi Hywel Teifi – Gofid neu Gyfle? Y Gymraeg yn y Normal Newydd. Gallwch gofrestru ar gyfer y gynahledd, fydd ar 10 Mawrth.