Sesiynau syniadau i sefydlu gwefannau bro de Ceredigion

Cyfle i gymunedau de Ceredigion ymuno â rhwydwaith Bro360 

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Beth tasai ffordd o w’bod y clecs diweddara o’ch ardal chi ar unwaith?

Fyddai hi’n dda gallu gweld pa ddigwyddiadau lleol sy mlân, gallu dilyn cystadlaethau a hanesion mudiadau, gallu rhannu’r newyddion da am fentrau newydd, dathlu cymeriadau’r fro, cefnogi busnesau bach… a gwneud y cyfan hyn mewn un man?

Mae hyn i gyd yn bosib – gyda gwefan fro.

Bach fel papur bro, ond ar-lein, gan gydweithio â’r papur: mae’n straeon ar-y-funud, fideos a blogiau byw gan bobol leol, yn y Gymraeg.

Mae cymunedau Llanbed, Tregaron a gogledd Ceredigion wedi bachu ar y cyfle yn barod. Ac mae Clonc360 Caron360 a BroAber360 yn mynd o nerth i nerth.

Datblygu yn ne Ceredigion

Ydych chi’n byw yn ne Ceredigion, ac eisiau clywed sut gall eich cymuned chi elwa, ac ymuno â rhwydwaith Bro360?

Ymunwch â ni dros Zoom yn ystod wythnos 10-13 Ionawr 2022.

Cofrestrwch o flaen llaw i’r sesiwn syniadau sy’n teimlo agosa i chi, trwy glicio ar y ddolen:

 

I bobol Dyffryn Aeron ac Aberaeron: nos Lun 10 Ionawr, 7.30pm

I bobol ardal Aberteifi: nos Fawrth 11 Ionawr, 7.30pm

I bobol ardal Llandysul: nos Fercher 12 Ionawr, 7.30pm

I bobol Bro Sion Cwilt: nos Iau 13 Ionawr, 7.30pm

 

Croeso i bawb sy’n chwilfrydig ac eisiau gwybod sut gall gwefan fro roi hwb i’ch milltir sgwâr.

Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal ar y cyd â chwmni IAITH, ac yn cael eu cefnogi gan Cynnal y Cardi – Cyngor Sir Ceredigion.