Sut mae rhoi dy dîm chwaraeon ar y map?

Syniadau, tips ac ysbrydoliaeth i greu cynnwys chwaraeon lleol ar wefannau Bro360

Lowri Jones
gan Lowri Jones
Begw
Gruff
OwainG
Gwennan
Nic

“Dw i jyst yn caru pêl-droed lleol, llu” – Begw Elain, wrth rannu ei phrofiadau o greu fideos uchafbwyntiau CPD Nantlle Vale.

Roedd Begw yn un o bump ar y panel yn sgwrs Dilyn dy Dîm Bro360 nos Wener 30 Gorffennaf, yn ymuno â’r sylwebydd Nic Parry, y pyndit Gwennan Harries, y cyflwynydd Owain Gwynedd a’r blogiwr seiclo Gruffudd Emrys.

Anogaeth oedd thema’r noson. O’r sylwebydd mwyaf adnabyddus yng Nghymru i’r ffans brwd ar lawr gwlad, roedd pawb yn gweld gwerth mewn gohebu o’u clybiau lleol, a rhannu’r cyffro gyda’r byd.

Daeth hi’n amlwg hefyd mai ni, fel y bobol sy’n mwynhau gwylio’r gemau lleol, sydd â’r cyfle gorau i greu cynnwys diddorol i gyfleu cyffro’r campau.

Yn rhan o’r noson, cyhoeddodd Bro360 gystadleuaeth – i wobrwyo’r cynnwys chwaraeon mwyaf poblogaidd ar draws y gwefannau bro ym mis Awst. Mae’n gyfle i ennill pecyn gohebwyr lleol Bro360, sy’n cynnwys tripod ffôn, lapel mic bach i’w ddefnyddio ar ochr y cae, llyfr nodiadau a darn o cit eich hoff dîm lleol.

“Erioed di synhwyro cymaint o gyffro”

Mae’n ddechrau tymor i’r cynghreiriau rygbi a phêl-droed ar eu newydd wedd. Ac mae campau eraill wedi ailddechrau gan fanteisio ar dywydd braf yr haf.

Fel dywedodd Nic Parry – oes amser gwell i ddechrau arni gyda’r gohebu bro?

“Dyma ydy’r cyfle i bobol sy’ isho cael mewn i chwaraeon, i ddechrau wrth eu traed. Ar ôl y sychder ma o ddeunaw mis, ar ôl y pandemig ma, dwi erioed di synhwyro cymaint o gyffro am gemau lleol.”

“Haws nag erioed”

I’ch helpu i feddwl beth i’w greu, rydym wedi casglu rhyw 14 o syniadau am wahanol fathau o gynnwys.

Fe soniodd Owain Gwynedd a Gruff Emrys yn y sgwrs ei bod yn haws nag erioed i wneud unrhyw beth. Felly ewch amdani!

Gallwch greu a chyhoeddi pob un o’r rhain ar eich gwefan fro – ewch i bro360.cymru ac Ymuno / Mewngofnodi i ddechrau arni. Dyma ambell air o gyngor gan Begw, Gruff a’r criw:

  • Mynd i’r gêm/ras: “Ewch â’ch ffôn poced gyda chi, gyda digon o le storio ynddo, fel nad oes yn rhaid i chi dreulio hanner amser yn dileu fideos!”
  • Wrth geisio cyfweliad: “Mae angen bach o gyts i fynd fyny a gofyn am gyfweliad, ond peth pwysica ydy paid â bod ofn, mae pawb yn ddigon cynnes a chroesawgar.”
  • Wrth holi ffans neu gystadleuwyr: “Fi wastad di mynd mewn yn trio meddwl fel bo fi’n cael sgwrs gyda ffrind, a jyst siarad fel byse ti os byse ti’n gwylio’r gêm yn y living room – fi’n credu wedyn ti’n gallu dod â dy bersonoliaeth di drosodd hefyd.”
  • Wrth holi: “Meddyliwch be fydd pobol adre ishe gwybod, a trïwch ofyn y cwestiynau yna”
  • Wrth gyhoeddi: “Jyst gnewch gamgymeriadau, da chi’n dysgu o bob un. Dwi’n rhoi posts i fyny sydd hefo camsillafu, camdreiglo, pob dim, ond da chi’n dysgu o bob un ohonyn nhw.”

Os hoffech gael cyngor pellach ar elfennau penodol, mae gan Bro360 ganllawiau ar pa aps i’w defnyddio i olygu fideo, sut i greu podlediad, a tips tynnu lluniau.

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)