Rhannu, dysgu a chreu gyda Bro360 ym mis Mawrth

Sesiynau rhad ac am ddim ar gynhyrchu podlediad, siapio democratiaeth o lawr gwlad, a gwneud defnydd creadigol o gyfryngau cymdeithasol 

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae Bro360 yn cynnig cyfleoedd i bobol yn Arfon a Cheredigion ddysgu sgiliau newydd a thrafod syniadau, gyda phedair sesiwn Zoom ym mis Mawrth.

O gynhyrchu podlediad, gwneud defnydd creadigol o gyfryngau cymdeithasol, a thrafod gwleidyddiaeth – mae yma rywbeth at ddant pawb.

Podlediadau

Mae grwpiau lleol wedi dechrau trafod syniadau am rannu a sgyrsiau gyda phobol y fro, ac er mwyn eu helpu i droi’r syniad yn bodlediad mae Bro360 yn cynnal dwy sesiwn i ddysgu’r holl bethau sylfaenol, a rhannu ambell air o gyngor.

Y cynhyrchydd profiadol Aled Jones o wasanaeth Y Pod fydd yn cynnal yr hyfforddiant ar gynhyrchu, recordio a golygu podlediad.

Democratiaeth

Gyda dau fis tan etholiadau’r Senedd, a phobol ifanc 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf, mae’n bwysicach nag erioed i ni drafod gwleidyddiaeth ac ymwneud â’r broses ddemocrataidd.

Bydd Bro360 yn cynnull criw sydd â diddordeb mewn trafod a siapio gwleidyddiaeth o’r gwaelod lan, i ddechrau gweld sut y gallwn ddefnyddio’r cyfryngau i effeithio ar ddemocratiaeth.

Cyfryngau cymdeithasol

Mae ’na esiamplau gwych o fudiadau a mentrau sy’n gwneud defnydd creadigol o gyfryngau cymdeithasol er mwyn hyrwyddo gweithgarwch, pobol a newyddion da am eu bro.

Dan a Guto fydd yn rhannu’r esiamplau o arfer da ac yn rhannu 30(ish) o tips ar sut i wneud defnydd da o Instagram, Twitter a Facebook. Byddwch chi’n siŵr o ddod ar draws rhywbeth newydd yn y sesiwn yma!

 

Y Sesiynau:

Creu dy bodlediad cyntaf

Cynghorion ar gynhyrchu, recordio a golygu podlediadau, gydag Aled o wasanaeth Y Pod

Nos Lun 8 + 15 Mawrth, 7pm

Ar gyfer: Unrhyw un sydd ag egin-syniad am bodlediad  (lle i 15 yn unig).

 

Fotio am Fory

Sesiwn i drafod gwleidyddiaeth ar lawr gwlad, a chreu timau lleol yn Arfon a Cheredigion sy’n defnyddio’r cyfryngau i effeithio ar etholiadau’r Senedd.

Pnawn Mawrth 16 Mawrth, 5pm

Ar gyfer: Pobol o bob oed o Arfon a Cheredigion.

 

30 tip mewn 60 munud

Sesiwn ar sut i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i wneud lles i’n bro.

Nos Fercher 18 Mawrth, 7.30pm

Ar gyfer: Cynrychiolwyr mudiadau, ac unrhyw un sydd am roi gweithgarwch eu bro ar y map (lle i 15 yn unig).

Mwy o wybodaeth, a chofrestru: post@bro360.cymru