Prynwch eich papur bro ar-lein

Mae 9 o bapurau bro Cymru bellach yn gallu codi arian am rifynnau ar-lein

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Gallwch chi ddarllen a chefnogi eich papur bro… o bell!

Oeddech chi’n gwybod hynny?

Mae dros 35 o bapurau bro yn cyhoeddi rhifynnau ar-lein, ar wefan Bro360, ers dechrau’r pandemig.

Ond erbyn hyn mae 9 ohonynt yn cynnig ‘botwm tanysgrifio’ – sef cyfle i’r papur godi arian gan ddarllenwyr eu rhifynnau digidol.

Y papurau bro hynny yw Clebran, Clonc, Papur Pawb, Papur Menai, Pethe Penllyn, Y Gadlas, Y Garthen, Y Glorian a’r Dinesydd. 

Os hoffech chi gefnogi eich papur bro lleol, tanysgrifiwch heddiw.

Ewch i dudalen y papurau bro ar wefan Bro360, clicio ar eich hoff bapur bro a nodi eich manylion cerdyn ar ôl pwyso’r botwm ’tanysgrifio’.