#PethauBychain yn ein bröydd

Pwy yn eich pentre’ chi sy’n gwneud y pethau bychain?

Cadi Dafydd
gan Cadi Dafydd

Gan gofio neges Dewi Sant, trwy gydol mis Mawrth bydd y gwefannau bro yn lle i roi sylw i bobol sy’n gwneud y pethau bychain.

Mae cymaint o bobol yn ein cymunedau yn gwneud y pethau bychain, a’r pethau hyn yn tyfu’n bethau mawr.

Eisoes, mae ambell un wedi mynd ati i adrodd am y pethau bychain maen nhw’n eu gwneud – er mwyn eu cymunedau, er mwyn eu bröydd, ac er mwyn yr iaith.

 

Dysgu Cymraeg i Americanwyr dros Zoom

Yn ystod y cyfnod clo, mae Dan Rowbotham o Langeitho wedi bod yn dysgu Cymraeg i griw o Americanwyr dros Zoom. Mae Dan wrth ei fodd yn rhannu’r iaith, a chyfrannu tuag at daith ieithyddol criw o dros 30 o bobol o’r Unol Daleithiau.

Wrth adael yr ysgol uwchradd, doedd dysgu Cymraeg i bobol yn America ddim yn uchel iawn ar dop ei restr syniadau gyrfaol…

Dysgu Cymraeg i Americanwyr yn ystod y cyfnod clo.

Dan Rowbotham

Yn ystod y cyfnod clo, mae Dan Rowbotham o Langeitho wedi cadw ei hunan yn brysur drwy ddysgu Cymraeg i bobl Gogledd America.

 

Rhoi Dyffryn Nantlle ar fap y Ffermwyr Ifanc

Mae rhai o aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Nantlle wedi bod yn gwneud y pethau bychain drwy gystadlu – ac ennill – yng nghystadlaethau’r eisteddfod rithiol.

Dros y penwythnos bu aelodau’r clwb yn cystadlu yn Eisteddfod Rithiol Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri, gan roi’r clwb a’r dyffryn ar fap y Ffermwyr Ifanc.

Gwnewch y pethau bychain?

Gwen Th

Drwy gydol y mis, fe fyddwn yma ar wefan DyffrynNantlle360 yn rhoi sylw i’r bobl o fewn y Dyffryn sydd yn gwneud y pethau bychain.

 

Danfon danteithion ar Ddydd Gŵyl Dewi

Draw yn Nyffryn Ogwen, bu criw cynllun Dyffryn Gwyrdd yn danfon cennin Pedr, cawl cennin a chacenni cri i bobol yr ardal ddydd Llun.

Cafodd car trydan cymunedol tîm Dyffryn Gwyrdd ei ddefnyddio i ddanfon y pecynnau, gan sicrhau fod y teithiau’n rhai cynaliadwy. 

Gwnewch y pethau bychan

Tom Simone

Dydd Gŵyl Dewi Hapus gan y tîm yn Nyffryn Gwyrdd.

 

Helpu’r GIG efo raffl

Yng Ngheredigion, mae Gareth Whalley wedi bod yn trefnu raffl er mwyn diolch i holl weithwyr y Gwasanaeth Iechyd am eu gwaith caled.

Pwy yn eich pentre’ chi sy’n gwneud y pethau bychain? 

Rhannwch eu stori er mwyn ysbrydoli eraill!